Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TC10020
Module Title
Astudio Ffilm
Academic Year
2025/2026
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Dadansoddi Testun  1500 o eiriau  50%
Semester Assessment Traethawd  1500 Words  50%
Supplementary Assessment Traethawd  1500 o eiriau  50%
Supplementary Assessment Dadansoddi Testun  1500 o eiriau  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Archwilio'r ffyrdd y gall ffurf a chynnwys ffilm unigol fod yn gysylltiedig â chyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol ehangach.

Deall pwrpasau'r damcaniaethau a'r cysyniadau allweddol sydd wedi dominyddu'r astudiaeth academaidd o ffilm, a gallu cymhwyso'r damcaniaethau a'r cysyniadau hyn i enghreifftiau.

Dadansoddi adeiladwaith ffurfiol testunau ffilm yn effeithiol ac yn bwrpasol.

Defnyddio ystod o waith ddarllen beirniadol o faes astudiaethau ffilm.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i astudiaeth academaidd ffilm, trwy gyflwyno myfyrwyr i rai o'r cwestiynau allweddol a'r dadleuon damcaniaethol sy'n nodweddu'r maes ddoe a heddiw. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddeg maes pwnc allweddol sydd wedi dominyddu trafodaethau a dadl mewn astudiaethau ffilm, ac yn cymhwyso damcaniaethau allweddol i enghreifftiau ffilm perthnasol.

Aims

Nod y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i astudiaeth academaidd ffilm ar Lefel 1. Y cwestiynau canolog y mae'r modiwl yn ceisio mynd i'r afael â hwy yw: pam mae ffilmiau a sinema wedi'u hystyried yn deilwng i'w hastudio, a pha gysyniadau, damcaniaethau a syniadau allweddol mae dulliau wedi'u defnyddio i archwilio arwyddocâd artistig, cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol ffilm. Er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn, bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddeg pwnc allweddol sydd wedi dominyddu trafodaethau astudiaethau ffilm, ac i gymhwyso'r damcaniaethau hyn i enghreifftiau ffilm perthnasol, a chynnig cyfle i fyfyrwyr datblygu eu sgiliau beirniadol, trwy ddadlau a beirniadu'r damcaniaethau hyn mewn sesiynau seminar.

Nod y modiwl yw bod yn gyflwyniad cadarn i bynciau, cysyniadau, dadleuon a materion allweddol (ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n newydd i astudiaethau ffilm), ac, i fyfyrwyr sy'n bwriadu parhau i gymryd modiwlau astudiaethau ffilm yn ystod Rhan 2, i gyflwyno cysyniadau a’u cysylltu â dadleuon a materion a fydd yn sail i’r archwilio a datblygu/problemau mwy cymhleth a gynigir yn y modiwlau astudiaethau ffilm sydd ar gael yn Rhan 2.

Content

Gall sesiynau gynnwys:

1. Cyflwyniad a Pam Astudio Ffilm?
2. Ffurf Ffilm I: Sinematograffi a Mise en scene
3. Ffurf Ffilm II: Golygu a Sain
4. Naratif
5. Genre
6. Awduraeth
7. Realaeth
8. Sêr
9. Sinema Genedlaethol
10. Sinema Gwlt

Module Skills

Skills Type Skills details
Communication * Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig myfyrwyr yn cael eu datblygu (e.e. iaith ac arddull priodol, cywirdeb, manwl gywirdeb a gallu i fod yn gryno). * Rhoddir cyfleoedd, trwy sesiynau seminar, i fyfyrwyr ddatblygu hyder wrth ddefnyddio eu sgiliau siarad a gwrando wrth gyfleu eu syniadau.
Improving own Learning and Performance * Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu eu sgiliau lleoli ac adalw gwybodaeth. * Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cymryd nodiadau effeithiol. * Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau meddwl beirniadol. * Trwy drafodaeth grŵp, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu ymwybyddiaeth o farn eraill ac ailystyried syniadau cychwynnol os oes angen.
Information Technology * Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a gwneud nodiadau wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig, a chânt eu hannog i ddatblygu eu sgiliau cymryd nodiadau mewn darlithoedd. * Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau wrth chwilio am ddeunydd darllen perthnasol a deunyddiau eraill (fel adolygiadau ffilm), trwy Gatalog Llyfrgell y Brifysgol, adnodd cyfnodolion electronig y Brifysgol, Joey, a thrwy gronfa ddata papurau newydd, Lexis-Nexis
Personal Development and Career planning * Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i werthuso gwybodaeth a sgiliau cyfredol a gosod targedau ar gyfer hunan-wella. * Anogir myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am reoli eu dysgu eu hunain. * Anogir myfyrwyr i adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd o ddarlithoedd trwy ddatblygu sgiliau astudio annibynnol (a gefnogir gan y rhestrau darllen cyffredinol a phenodol ac adnoddau eraill a ddosberthir trwy gydol y modiwl).
Problem solving * Dylai myfyrwyr allu nodi tensiynau a dadleuon yn y maes, a byddant yn cael eu hannog i fyfyrio’n feirniadol ar y broses a ddefnyddir gan academyddion i lunio dehongliadau damcaniaethol penodol o ffilmiau penodol.
Research skills * Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu eu sgiliau lleoli ac adalw gwybodaeth (yn arbennig trwy'r asesiad cyntaf, lle mae gofyn iddynt leoli un darn academaidd o ysgrifennu ar eu dewis ffilm ac yna crynhoi ei ddadl). * Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu eu sgiliau dadansoddol testunol, a dysgu dadansoddi testunau mewn modd pwrpasol a phwrpasol.
Team work * Bydd pob sesiwn seminar yn cynnwys gwaith grŵp lle bydd myfyrwyr yn gallu cydweithio trwy drafodaeth, ac yna adrodd eu syniadau yn ôl i'r grŵp seminar cyfan.

Notes

This module is at CQFW Level 4