Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad prosiect terfynol (hyd at 12,000 o eiriau) Bydd raid i fyrywyr ail-gyflwynor elfennau maent wedi methu (<40%) (h.y. adroddiad terfynol, cyflwyniad llafar, neu adroddiad terfynol + cyflwyniad llafar). Bydd y marciau ar gyfer elfennau sydd wedi eu pasio yn cael eu defnyddio er mwyn cyfrifo marc y modiwl a fydd wedi ei ail-sefyll. | 90% |
Asesiad Ailsefyll | Recordiad o gyflwyniad llafar Recordiad o gyflwyniad llafar 10 munud o hyd, lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno'r data maent wedi ei gasglu a'i ddadansoddi'n rhagarweiniol. | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar -lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno'r data maent wedi ei gasglu a'i ddadansoddi'n rhagarweiniol. 10 Munud | 10% |
Asesiad Semester | Adroddiad prosiect terfynol (hyd at 12,000 o eiriau) | 90% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad academaidd trwyadl.
Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd.
Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli.
Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas.
Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol.
Cyflwyno cyd-destun eu hastudiaeth, a'r data maent wedi ei gasglu a'i ddadansoddi'n rhagarweiniol mewn dull proffesiynol.
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr sy'n astudio gradd sengl mewn Daearyddiaeth, Gwyddor yr Amgylchedd, neu Gwyddor Daear yr Amgylchedd. Bydd pwnc addas sy'n berthnasol i'w gradd yn cael ei gynnig gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Ceir pedair rhan i'r prosiect: (i) dynodi pwnc ymchwil a datblygu cynllun ymchwil addas; (ii) ymchwil empiraidd i gasglu data cynradd a/neu gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil; (iii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli. Ceir cyfwyniad llafar yn wythnos 11 o semester 1, lle bydd gofyn i'r myfyrwyr cyflwyno'r data a gasglwyd ac a ddadansoddwyd ganddynt (iv) creu adroddiad terfynol 12,000 o eiriau, i'w gyflwyno yn semester 2.
Cynnwys
(i) cyfarfodydd fel unigolyn gyda'u harolygydd. Galluoga'r cyfarfodydd hyn i'r arolygydd i roi adborth a chyfarwyddyd a fydd wedi ei dargedu'n benodol ar astudiaeth y myfyriwr. Bydd y cyfarfodydd hyn yn sylfaen ar gyfer y system Tiwtor Personol ar Lefel 3;
(ii) cyfarfodydd grŵp yn ystod semester 1, a fynychir gan holl fyfyrwyr traethawd estynedig aelod o staff. Bydd cyfle yn y cyfarfodydd hyn i drafod materion a fydd yn help i'r holl fyfyrwyr hyn i gwblhau eu traethawd estynedig;
(iii) darlithoedd sgiliau cyffredinol (a fydd yn cynnwys elfennau CPD arwyddocaol) ar gyfer y cwrs gradd neu ar gyfer y flwyddyn yn gyffredinol, fel y bo'n briodol. Bydd rhai o'r rhain yn sesiynau a fydd yn cefnogi'r Traethawd Estynedig, e.e. strwythuro eich traethawd estynedig, sgiliau cyflwyno, tra bydd rhai eraill yn canolbwyntio ar faterion CPD, e.g. amgyffred sgiliau a chaffael swyddi.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy: gwblhau'r cyflwyniad llafar; drafod yr ymchwil - fesul unigolyn ac mewn grwpiau; ac o bosib, gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol (e.e. cyfweliadau a holiaduron). |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau datblygiad personol fel rhan o'r sesiynau CPD a'r cyfarfodydd Tiwtor Personol sy'n rhan o'r modiwl. Yn ogystal, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn hynod drosglwyddadwy i ystod eang o yrfaoedd. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data. |
Gwaith Tim | Datblygir medrau gwaith tîm yn y cyfarfodydd grŵp, e.e. ar ffurf trafodaeth a gwaith grŵp. Ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n ffurfiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn y trafodaethau unigol a grŵp. |
Rhifedd | Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol), wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar (e.e. Powerpoint) ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6