Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA25520
Teitl y Modiwl
Prosesau Rhewlifol ac Afonol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad heb ei weld (cwestiynau byr a thraethawd)  75%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad heb ei weld (cwestiynau byr a thraethawd)  75%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ffliwm hydrolig  Adroddiad byr  25%
Asesiad Semester Adroddiad ffliwm hydrolig  Adroddiad byr 1000 o eiriau  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio prosesau a ffurfiau allweddol systemau dalgylch gan gynnwys rhyngweithiad llif hylif a gwaddod;

Adnabod ac esbonio sut mae prosesau rhewlifol ac afonol yn rhyngweithio i gynhyrchu tirffurfiau a thirweddau gwahanol;

Egluro strwythur rhwydweithiau draenio, morffoleg sianel a dynameg sianel;

Gwerthuso problemau a strategaethau rheoli mewn dalgylchoedd hydrolegol, gan gynnwys peryglon.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn archwilio prosesau geomorffolegol a hydrolegol sylfaenol allweddol sy’n gweithredu mewn dalgylchoedd daearol sy’n ymestyn o fynyddoedd i aberoedd, sy’n gysylltiedig yn benodol â rhewlifoedd ac afonydd. Yn gyntaf bydd y modiwl yn archwilio'r prosesau sy'n gweithredu yn yr amgylcheddau hynny ar wahân, cyn ystyried sut y gallant ddylanwadu ar geoberyglon, a ffurfiant ac esblygiad tirffurf a thirwedd.

Nod

Nod y modiwl yw:

· datblygu ymwybyddiaeth gysyniadol drylwyr o weithgarwch a phrosesau rhewlifol ac afonol a chanlyniadau geomorffolegol symudiad dŵr ar draws y dirwedd.

· datblygu ymwybyddiaeth gysyniadol feirniadol o'r prosesau sy'n dylanwadu ar sut mae dalgylchoedd yn ymateb yn hydrolegol ac yn geomorffolegol i newid amgylcheddol.

· defnyddio dealltwriaeth o dirweddau afonol a rhewlifol i werthuso strategaethau rheoli a fabwysiadwyd ar gyfer sianeli afonydd a dalgylchoedd ehangach, gan gynnwys ar gyfer peryglon hydrolegol.

Cynnwys

· Cydbwysedd màs rhewlif a hydroleg
· Symudiad rhewlif ac erydiad, llusg-gludo a chludiant gwaddod
· Prosesau sianeli afon – llif hylif, gwaddod ac erydiad
· Geometreg hydrolig a phatrymau sianeli afonydd
· Rheoli systemau dalgylch ac amgylcheddau hydrolegol
· Gwaith maes yn nalgylch Afon Rheidol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Sgiliau ysgrifennu traethawd wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth sefyll yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu traethodau a chanolbwyntio ar strategaethau rheoli pwysig a ddefnyddir yn y maes rheoli amgylcheddol. Bydd siaradwr allanol o fyd ymgynghori amgylcheddol yn dangos opsiynau gyrfa.
Datrys Problemau Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddeall tarddiad prosesau ffisegol allweddol a gwerthuso strategaethau a ddefnyddir i fonitro a rheoli rhannau allweddol o'r systemau rhewlifol ac afonol.
Gwaith Tim Dim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Darllen annibynnol yn seiliedig ar restr ddarllen
Rhifedd Trwy bwyslais ar feintioli ffurfiau a phrosesau dalgylchoedd rhewlifol ac afonol, ac egluro llif geoffisegol o egwyddorion mecanyddol cyntaf
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gadael y cwrs yn ymwybodol o broblemau a datrysiadau rheoli amgylcheddol pwysig.
Sgiliau ymchwil Darllen annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd mynediad at adnoddau helaeth y llyfrgell a'r we yn hanfodol ar gyfer datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5