Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY11720
Teitl y Modiwl
Ysgrifennu Cymraeg Graenus
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Ymarferion 1  20%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   50%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion 2  30%
Asesiad Semester Ymarferion Wythnosol 1  (Semester 1: 8 o Ymarferion Wythnosol (gosodir tasg wythnosol, sef amrywiaeth o dasgau cyfieithu, cywiro ac ysgrifennu rhydd)  20%
Asesiad Semester Ymarferion Wythnosol 2  (Semester 2: 8 o Ymarferion Wythnosol (gosodir tasg wythnosol, sef amrywiaeth o dasgau cyfieithu, cywiro ac ysgrifennu rhydd)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Ysgrifennu’n hyderus yn y cywair llenyddol, ffurfiol.

dangos dealltwriaeth o’r modd y defnyddir system ferfol y Gymraeg (amserau’r ferf; moddau gweithredol a goddefol)

llunio cymalau perthynas yn gywir

sut i lunio cymal enwol yn gywir

llunio cymalau amodol yn gywir

deall sut y mae pwyslais yn gweithio yn y Gymraeg.

deall sut mae llunio cymalau adferfol yn gywir

defnyddio rhagenwau personol yn gywir (rhai blaen, ôl mewnol)

llunio ffurf fenywaidd unigol yr ansoddair a ffurf luosog yr ansoddair yn gywir

llunio a defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair yn gywir.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hyn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig myfyrwyr ac yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. Dilynir patrwm Gweithdy–Seminar–Gweithdy. Cyflwynir pwnc gramadegol newydd ym mhob gweithdy gramadeg wythnosol a gwneir ymarferion pwrpasol yn y seminar sy’n dilyn lle disgwylir i fyfyrwyr fedru egluro’r rheolau gramadegol sydd ar waith yn yr ymarferion. Mae’r ail weithdy wythnosol yn gyfle i atgyfnerthu pynciau gramadegol penodol a hefyd i drafod pynciau gramadegol cyffredinol eraill sy’n codi yng ngwaith ysgrifenedig y myfyrwyr. Gosodir y dasg wythnosol yn yr ail weithdy. Defnyddir pecyn cwrs ac ymarferion a ddatblygwyd gan Dr Ian Hughes.

Nod

Y rhesymeg dros y modiwl craidd hwn yw bod angen i gwricwlwm i fyfyrwyr ail iaith osod seiliau cadarn mewn gramadeg a Chymraeg ysgrifenedig. Ceir modiwl cyfatebol sy’n atgyfnerthu Cymraeg anffurfiol a sgiliau llafar (CY11620)

Cynnwys

Semester 1
• Y gystrawen
• Y ferf ‘bod’ – presennol, dyfodol/arferiadol
• Y ferf ‘bod’ – perffaith
• Y ferf ‘bod’ – amherffaith/gorberffaith
• Y ferf ‘bod’ – amodol + gorffennol arferiadol
• Amserau gorffennol y ferf; Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno gorffennol
• Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno: presennol/dyfodol
• Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno: amherffaith/amodol
• Adolygu terfyniadau berfau cryno
• gwybod/adnabod

Semester 2
• gweithredol/goddefol; amhersonol
• gorchmynnol; gwneud awgrym; gwneud cais
• berfau cynorthwyol; gwrthrych berfenw
• amodau: os, pe, oni
• y cymal enwol
• cymalau adferfol
• cymalau perthynol, rhywiog ac afrywiog; pwyslais/blaenoli
• treigliadau (y fannod); cystrawen y genidol.
• Ansoddeiriau; cymharu ansoddeiriau
• Rhagenwau personol; rhagenwau mewnol; arddodiaid personol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweler rhif 4
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4