Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | 30 Awr Dylinio a chreu gwefan 30 Awr | 40% |
Asesiad Semester | 30 Awr Dylinio a chreu gwefan 30 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Egluro'r gwahaniaeth rhwng strwythur, cynnwys a chyflwyniad deunydd gwe a manteision cynnal y gwahaniaeth hwnnw.
Ysgrifennu HTML a rheoli ei gyflwyniad gan ddefnyddio dalennau steil.
Ysgrifennu cod ochr y cleient i ryngweithio â'r dudalen we, darllen a phrosesu cynnwys y ffurflen, a deall y gwahaniaeth rhwng ochr y cleient ac ochr y gweinydd.
Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cadw at safonau.
Dangos dealltwriaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag adeiladu systemau cyfrifiadurol diogel.
Disgrifio gwahanol fathau o ymosodiadau seiber a phennu amddiffyniadau priodol yn erbyn ymosodiad
Dangos dealltwriaeth o ddulliau amgryptio priodol, a'u cymhwyso.
Gwerthuso agweddau ar systemau cyfrifiadurol gan gyfeirio at gyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd (fframwaith CIA).
Disgrifiad cryno
Yn y rhan diogelwch gwybodaeth, mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol mewn diogelwch gwybodaeth, gan ddarparu trosolwg o fframweithiau damcaniaethol ar gyfer systemau diogel ac argymhellion ymarferol. Bydd yn ymdrin ag agweddau ar feddalwedd, caledwedd a diogelwch rhwydwaith.
Cynnwys
1. Cynnwys, cyflwyniad a strwythur. HTML, CSS.
2. Dilysu, safonau gwe, HTML fel XML/SGML. Dogfennau fel coeden. Rhyfeloedd porwyr.
3. Sgriptio ochr y cleient - ECMAScript (JavaScript) a phrosesu ffurflenni HTML. Model Gwrthrych y Ddogfen.
4. Cymhariaeth ochr y cleient a'r gweinydd. Y protocol HTTP. Cyflwyniad i egwyddorion rhaglennu ochr y gweinydd.
5. Cynnwys amlgyfrwng
Diogelwch cyfrifiaduron a gwybodaeth:
1. Cyfrinachedd, Uniondeb, Argaeledd, a rheoli risg
2. Cyfrineiriau, rheoli cyfrinair, a diogelwch rhwydwaith
3. Amgryptio
4. Ymosodiadau a'u lliniaru, gan gynnwys peiriannu cymdeithasol
5. Dyluniad diogel a chod amddiffynnol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau Creadigol | Adeiladu a dadfygio cod gwefan |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dadansoddi systemau i ddeall risgiau a buddion o safbwynt diogelwch gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4