Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD20220
Teitl y Modiwl
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 2  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Aseiniad 1  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Aseiniad 2  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso'r feirniadol ddatblygiad llythrennedd mewn plant ifainc o fewn i fframwaith penodol.

Trafod yn feirniadol oblygiadau datblygiad llythrennedd ar gyfer dysgu ac addysgu.

Dangos dealltwriaeth feirniadol o rôl yr oedolyn wrth gyfryngu adnoddau llythrennedd

Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu plant i wneud ystyr a rôl oedolion a'r gymuned wrth gefnogi'r broses hon. Mae'n archwilio dadleuon cyfredol ynghylch datblygu sgiliau plant mewn iaith lafar ac ysgrifenedig yn ogystal â dulliau eraill o ystyr, gan gynnwys testunau digidol. Mae'n archwilio rôl llythrennedd mewn cymdeithas amrywiol a phwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn yn gweld ei fod yn cael ei gynrychioli yn y deunyddiau llythrennedd y maent yn ymgysylltu â nhw.

Cynnwys

Llythrennedd yn yr 21ain ganrif: cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol
Llafaredd a darllen cynnar: creu amgylchedd llawn llythrennedd
Dulliau o addysgu darllen
Dewisiadau darllen: Gweithio gyda theuluoedd a'r gymuned
Y broses ysgrifennu
Darllen er gwybodaeth: mynediad at destunau o ansawdd uchel
Datblygiad barddoniaeth a llythrennedd
Heriau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddatblygu llythrennedd
Datblygu gweithgareddau llythrennedd
Gwerthuso gweithgareddau llythrennedd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5