Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr MCQ 1.5 Awr | 40% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr MCQ 1.5 Awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Bydd myfyrwyr yn cwblhau 4 gweithgaredd senario wedi'u halinio â sesiynau ymarferol ar draws S1 ac S2. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno fel portffolio unigol o weithgareddau yn S2. 1500 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio Bydd myfyrwyr yn cwblhau 4 gweithgaredd senario wedi'u halinio â sesiynau ymarferol ar draws S1 ac S2. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno fel portffolio unigol o weithgareddau yn S2. 1500 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Disgrifio systemau pwysig cynhyrchu da byw ac arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cof a o anatomi a ffisioleg y da byw o'u fewn.
Nodi'r cyfyngiadau biolegol ar gynhyrchiant ar gyfer pob un o'r systemau hyn ac arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth mewn cof o egwyddorion rheoli cynaliadwy.
Dangos sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau cynhyrchu da byw.
Dangos y gallu i ddadansoddi a dehongli data fferm da byw.
Disgrifiad cryno
Trwy gyfres o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol ar ffermydd ac o fewn labordai mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU a sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.
Nod
Deall sut mae bioleg da byw a phathogenau yn sail i effeithlonrwydd systemau da byw.
Nodi cyfyngiadau ar gynhyrchu, yn enwedig cyfyngiadau biolegol, a disgrifio arferion rheoli cynaliadwy i'w goresgyn.
Dadansoddi a dehongli data fferm da byw i werthuso perfformiad y system.
Cynnwys
Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniad i systemau cynhyrchu da byw a gwyddoniaeth gan gynnwys systemau defaid, gwartheg eidion, gwartheg godro a dofednod; systemau cynhyrchu wyau a chig dofednod; bioleg da byw gyffredinol; iechyd da byw gan ganolbwyntio ar imiwnedd, parasitoleg, bacteria, protosoa a firysau; systemau biolegol gan gynnwys systemau atgenhedlu, endocrin a threulio; twf a datblygiad a llaetha a rheoli clefydau yn gynaliadwy.
Bydd sesiynau ymarferol yn cynnwys dyraniadau da byw cnoi cil; deall y gylchred cynhyrchu defaid a gweithgareddau rheoli allweddol; systemau magu lloi a magu anifeiliaid am gig eidion; systemau cynhyrchu llaeth gan gynnwys y cylch gynhyrchu, maeth y fuwch a rheoli mastitis; rheoli defaid au hŵyn; cyfrif wyau ysgarthol ar gyfer rheoli parasitiaid mewnol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr aseiniadau, lle bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau. |
Gallu digidol | Mae angen dadansoddi, dehongli a chyflwyno data gan ddefnyddio Excel yn yr aseiniadau. Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn yr aseiniad a bydd adborth yn cael ei ddarparu. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd yr aseiniadau yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau y tu hwnt i ddyfnder a chwmpas deunydd y ddarlith. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu hasesu yn yr aseiniadau. Rhoddir adborth yn yr aseiniad. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd cysyniadau pwnc-benodol sy'n ymwneud â chynhyrchu da byw a bioleg yn cael eu datblygu a'u hasesu yn yr aseiniadau a'r arholiad. Rhoddir adborth yn yr aseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4