Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu | 100% |
Asesiad Semester | Cynnydd Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) | 15% |
Asesiad Semester | Adroddiad ffurfiol yn cynnwys adolygiad o'r llenyddiaeth a chynllun prosiect (oddeutu 2500 gair) Adroddiad ffurfiol yn cynnwys adolygiad o'r llenyddiaeth (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) | 85% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg.
2. Gwerthuso datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil o ddiddordeb fel a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnir.
3. Trefnu a chydlynu eu gwaith er mwyn cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil.
4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun.
5. Cyflwyno ac amddiffyn eu gwaith mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Mae'r prosiect yn cynnwys ymchwil i'r llenyddiaeth a chyfnod o gynllunio sy'n cael eu dilyn gan y prif waith prosiect. Fel arfer, mae'r myfyriwr yn gwneud y prosiect dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd o fewn un o'r grwpiau ymchwil yn yr adran. Caiff y canlyniadau eu dehonlgi a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y tesutn ymchwil a geir o'r llyfryddiaeth a arfarnwyd, a chaiff y gwaith prosiect cyfan gan gynnwys yr adolygiad llenyddiaeth ei gyflwyno mewn adroddiad ysgrfenedig ffurfiol.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn rhedeg drwy gydol y semester a chaiff ei gefnogi gan diwtorialau wythnosol gyda'r goruchwylydd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Caiff yr adolygiad llenyddiaeth a darganfyddiadau'r prosiect eu cyfathrebu mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Disgwylir cyflwyniad proffesiynol o'r canlyniadau, sy'n ymarfer hanfodol ar gyfer y datblygiad i fod yn Ffisegydd proffesiynol. |
Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn hanfodol i ymateb i'r canlyniadau cychwynnol ac i addasu'r strategaeth arbrofol yn unol â hyn. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dysgu a pherfformiad drwy adlewyrchu ar ganlyniadau eu gwaith labordy a chynllunio gwaith pellach. |
Rhifedd | Mae cynhwyso rhif yn ganolog i ddadansoddi data arbrofol, yn cynnwys trin cyfeilornadau |
Sgiliau pwnc penodol | Oes, ond mae'r manylion yn dibynnu ar y testun neilltuol. |
Sgiliau ymchwil | Mae angen sgiliau ymchwil a'r gallu i ymdrin â gwybodaeth fel cefndir i ddatblygu arbrofion a phrofi damcaniaethau. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae defnyddio offer a chyfrifiaduron i ddadansoddi a chyflwyno data yn hanfodol ar gyfer prosiect Ffiseg. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7