Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
TC31320
Teitl y Modiwl
Cynhyrchiad Annibynnol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar unigol | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad - 'Pitch' unigol (10 munud) | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Perfformiad - unigol (25-30 munud) | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar fesul grwp cynhyrchu | 25% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad - 'Pitch' i'r prosiect fesul grwp cynhyrchu (10 munud) | 25% |
Asesiad Semester | Perfformiad - mewn cynhyrchiad grwp (25-30 munud) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dyfeisio, cynllunio, a llwyfannu perfformiad yn annibynnol, gan fynegi gweledigaeth greadigol eglur.
2. Cyd-destunoli eu gwaith o fewn maes ymarfer perfformio cyfoes trwy gyfrwng digwyddiad sydd o safon briodol ar gyfer ei gyflwyno’n gyhoeddus.
3. Mynegi eu gweledigaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn modd proffesiynol a phriodol ar gyfer y diwydiannau creadigol.
4. Adlewyrchu’n feirniadol ar y broses o greu ac o gyflwyno gwaith perfformio mewn modd sydd yn dreiddgar a deallusol, gan leoli’r gwaith o fewn cyd-destun theatraidd a diwylliannol penodol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn fydd cynnig profiad llawn o weithio gyda grwp ensemble o gyd-fyfyrwyr ar gynhyrchiad byw neu amlgyfrwng tua 30 munud o hyd. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfrifoldeb creadigol ac ymarferol llawn ar y myfyrwyr Lefel 3 i lunio a thywys eu cyd-fyfyrwyr Lefel 2 (ar y modiwl Perfformio Ensemble) trwy broses gynhyrchu gyfan, gytbwys a chyraeddadwy. Fe fydd proses greadigol ac ymarferol y myfyrwyr Lefel 3 yn cael ei oruchwylio gan aelod o staff, ac fe geir cyfleon yn ystod y modiwl i gynnal sesiynau tiwtorial a fydd yn dadansoddi cynnydd ymarferol y myfyrwyr a chynnig cyngor iddynt o ran datblygiad pellach y prosiect.
Os nad fydd myfyrwyr a gael yn yr ail flwyddyn i gymryd y modiwl cyfatebol, gellir llunio ensemble o blith myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, neu gyflwyno prosiect unigol.
Os nad fydd myfyrwyr a gael yn yr ail flwyddyn i gymryd y modiwl cyfatebol, gellir llunio ensemble o blith myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, neu gyflwyno prosiect unigol.
Cynnwys
Bydd y gweithdai wythnosol yn taro golwg ar y pynciau a’r meysydd canlynol:
Technegau a phrosesau ar gyfer dyfeisio deunydd perfformio annibynnol
Technegau a phrosesau ar gyfer strwythuro deunydd perfformio
Dogfennu a chofnodi proses
Dramatwrgiaeth
Technegau hyfforddi penodol a gwaith byrfyfyr
Ysgrifennu perfformiadol
Ysgrifennu ar gyfer perfformio
Lleoli perfformio
Gweithio gyda’r geiriol, y gweledol, a’r gofod perfformio
Ysgrifennu datganiad artist
Cynhelir sesiynau tiwtora unigol ar gyfer pob grŵp/cyflwyniad er mwyn gallu cyflwyno a chynnal cyfres o dasgau dyfeisio, a derbyn adborth, a sicrhau bod gwaith annibynnol yn cael ei fonitro’n ddigonol ar hyd y semester.
Erbyn diwedd y modiwl, fe fydd pob grŵp/unigolyn sy’n cyflwyno wedi creu perfformiad unigol o 30 munud o hyd. Bwriedir i’r gwaith terfynol fod o safon a fyddai’n ei wneud yn briodol ar gyfer ei berfformio i gynulleidfaoedd cyhoeddus mewn cyd-destun a fyddai’n briodol ar gyfer artistiaid ifanc. Y nod yw sicrhau bod y gwaith terfynol yn fodd i gynorthwyo’r myfyrwyr i ddatblygu’n ymarferwyr mwy proffesiynol neu i gyrchu tuag at ymchwil ymarferol academaidd pellach.
Technegau a phrosesau ar gyfer dyfeisio deunydd perfformio annibynnol
Technegau a phrosesau ar gyfer strwythuro deunydd perfformio
Dogfennu a chofnodi proses
Dramatwrgiaeth
Technegau hyfforddi penodol a gwaith byrfyfyr
Ysgrifennu perfformiadol
Ysgrifennu ar gyfer perfformio
Lleoli perfformio
Gweithio gyda’r geiriol, y gweledol, a’r gofod perfformio
Ysgrifennu datganiad artist
Cynhelir sesiynau tiwtora unigol ar gyfer pob grŵp/cyflwyniad er mwyn gallu cyflwyno a chynnal cyfres o dasgau dyfeisio, a derbyn adborth, a sicrhau bod gwaith annibynnol yn cael ei fonitro’n ddigonol ar hyd y semester.
Erbyn diwedd y modiwl, fe fydd pob grŵp/unigolyn sy’n cyflwyno wedi creu perfformiad unigol o 30 munud o hyd. Bwriedir i’r gwaith terfynol fod o safon a fyddai’n ei wneud yn briodol ar gyfer ei berfformio i gynulleidfaoedd cyhoeddus mewn cyd-destun a fyddai’n briodol ar gyfer artistiaid ifanc. Y nod yw sicrhau bod y gwaith terfynol yn fodd i gynorthwyo’r myfyrwyr i ddatblygu’n ymarferwyr mwy proffesiynol neu i gyrchu tuag at ymchwil ymarferol academaidd pellach.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu gwaith ymarferol, boed hynny'n cyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth gyfarwyddo neu gyfathrebu ag aelodau tîm dylunio wrth weithio'n dechnegol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni cheir unrhyw ymrwymiad ffurfiol na swyddogol i ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. Gobeithir y bydd y gwaith hwn, ac unrhyw ddogfennaeth ohono, yn gweithredu fel 'showcase' ar gyfer gwaith y myfyriwr, ac yn fodd iddynt gyflwyno’u hunain i gyflogwyr. |
Datrys Problemau | Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. Fe fydd y broses o greu gwaith creadigol annibynnol a'i drin a'i ddiffinio ar yr un pryd fel prosiect ymchwil yn her sylfaenol ac yn gofyn i'r myfyrwyr werthuso manteision ac anfanteision sawl gwahanol fath o atebion posibl. |
Gwaith Tim | Mae'r gallu i weithio fel aelod o dîm creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu. Hyd yn oed pan fydd y myfyriwr yn gweithio yn annibynnol ac unigol, fe fydd yn rhaid iddynt drafod a rhesymoli anghenion eu Prosiect mewn perthynas â chyflenwad adnoddau'r Adran. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer gan y Tiwtor a ddosrannir iddynt, a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. Fe fydd y Cyflwyniad Ymarfer-fel-Ymchwil yn rhoi cyfle iddynt adfyfyrio ar eu cynnydd yn ystod y modiwl yn fwy ffurfiol, ac i werthuso rhai o ganlyniadau'r gwaith ymarferol ar y Prosiect. |
Rhifedd | Ni ddatblygir sgiliau gwybodaeth rifyddol yn ystod y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn ystyried pob myfyriwr fel artist annibynnol, a bydd disgwyl i’r myfyrwyr ymateb yn briodol i'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a hynny. Bydd pwyslais ar gyflogadwyedd a chreu cysylltiadau gyda’r sector broffesiynol, gyda’r bwriad bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio’u gwaith fel enghraifft o’u gallu ymarferol a gweledigaeth artistig ac yn ei arddangos mewn cyd-destunau cyhoeddus. |
Sgiliau ymchwil | Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; fe asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol trwy gyfrwng y Cyflwyniad Llafar ar derfyn y prosiect. |
Technoleg Gwybodaeth | Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth ymchwilio, paratoi a chyflwyno'r prosiect hwn; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6