Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Cyflwyniad unigol o 10 munud. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd/ Traethawd fideo Traethawd 2,000 gair neu traethawd fideo 4 munud ar gwestiwn penodol. | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd/ Traethawd fideo Traethawd 2,000 gair neu traethawd fideo 4 munud ar gwestiwn penodol. | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Cyflwyniad grwp 10 munud ar pwnc perthnasol i'r modiwl. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Y gallu i drafod ac asesu’r cyd-destunau diwylliannol a diwydiannol o amgylch cynhyrchiadau penodol.
Y gallu i drafod damcaniaethau addasiad rhwng y ffurfiau gwahanol o berfformio/chynhyrchu.
Defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli y berthynas rhwng theatr a ffilm.
Adnabod ac archwilio amryw o ffynonellau er mwyn dadansoddi cynnwys a chynhyrchiad testunau priodol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn rhoi’r cyfle i edrych ar hanes a diwylliant ffilm a theatr yn yr Unol Daleithiau a’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae 10 wythnos dysgu wedi eu rhannu rhwng arolwg hanesyddol o’r datblygiadau yn a rhwng y ddau gyfrwng ac astudiaethau achos yn ymchwilio digwyddiadu penodol, y pwysigrwydd o genre, a’r cynrychiolaeth o grwpiau a chymunedau.
Nod
Bydd y modiwl yn uno traddodiadau ffilm efo drama a theatr er mwyn edrych ar hanes y ddau ffurf a'u cysylltiadau ar draws yr Ugeinfed Ganrif ac yn y cyfnod cyfoes.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a sesiynau gwylio, er mwyn rhoi'r cyfle i amlinellu pynciau difyr a gwrthgyferbyniol a thrafod y gwahaniaethau rhwng yr ymchwiliad o'r pynciau ar y sgrin a'r llwyfan.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a pynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol. |
Gallu digidol | Bydd y modiwl yn defnyddio Blackboard i gyfleu prif wybodaeth y modiwl, defnyddiau Aspire, a system Turnitin. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd gwahanol ar hyd y modiwl. Mae disgwyliadau byddynt yn ymchwilio ac adlewyrchu ar casgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a’r aseiniadau. |
Myfyrdod | Bydd cyfle i ddefnyddio ‘asesu-cyfoed’ (peer-assessment) efo rhai aseiniadau er mwyn rhoi sylwebaeth ar y broses o weithio fel grŵp. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Dadansoddiad Critigol: Ymrwymo’n gritigol efo damcaniaethau a trafodaethau o fewn y maes, a’u rhoi i ddefnydd cynhyrchiol. Deall ffurfiau o gyfarthrebu, y cyfryngau, ffilm a theatr, sut maent wedi ymddangos yn hanesyddol, a gwerthfawrogi y prosesau maent wedi codi trwyddynt, efo cyfeiriadau at newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a technolegol. Ymchwil: Paratoi aseiniadau. Tynnu ar gryfderau, a deall y terfynau, o brif ddulliau ymchwil mesurol ac ansoddol yn eu gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5