Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC20620
Teitl y Modiwl
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll .1 Awr   Cyflwyniad  .1 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester .1 Awr   Cyflwyniad  .1 Awr  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Defnyddio cysyniadau sy'n canoli ar genedl a hunaniaeth wrth drafod ffilm a theatr gyfoes

Dadansoddi agweddau ar hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol mewn ffilm a theatr gyfoes

Caffael dealltwriaeth o'r testunau a astudir mewn perthynas â'u cyd-destunnau diwylliannol a gwleidyddol rhwng 1997- heddiw.

Datblygu'r gallu i ymchwilio a chyflwyno dadl sydd wedi chefnogi'n llawn gan ystod o ffynonellau

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar Theatr a Ffilm yng Nghymru yn y cyfnod ôl-ddatganoledig (1997-heddiw). Ystyrir damcaniaethau sy’n canoli ar hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol, a dadansoddir testunau ffilmig a theatraidd trwy lens nifer o ddamcaniaethau cyfoes.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn un o gasgliad o fodiwlau damcaniaethol fydd ar gael i fyfyrwyr BA Creu: Cyfryngau a BA Creu: Perfformio yn eu hail flwyddyn. Fe fydd yn datblygu sgiliau dadansoddi myfyrwyr yng ogystal ag ymwybyddiaeth o'r modd yr adlewyrchir agweddau ar hunaniaeth Gymreig a pherthynas Cymru a'r Byd, a chysyniadau cyfoes, trwy ffilmiau a theatr.

Cynnwys

1.Cyflwyniad: Ffilm, Theatr, a’r Cenedlaethol a’r Rhyngwladol
2.'Hen Gymru'
3.Y ‘Gymru Newydd
4. Iaith
5. Amlddiwylliannedd
6. Trawsgenedlaetholdeb
7. #MeToo
8. Newid Hinsawdd
9. Gofod a Lleoliad
10. Cymru a’r Byd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl.
Cydlynu ag erail Bydd y sesiynau dysgu yn rhoi’r cyfle i drafod fel grwp.
Cyfathrebu proffesiynol Mae’r aseiniadau ysgrifenedig ac ar lafar yn datblygu sgiliau cyfathrebu proffesiynol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a phynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol.
Gallu digidol Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd ac ymarferol drwyddi draw. Bydd disgwyl iddynt ymchwilio a myfyrio ar gasgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a yn y broses o ffurfio’r aseiniadau.
Myfyrdod Bydd sesiynau dysgu a’r aseiniadau yn galluogi myfyrwyr i adlewyrchu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc.
Synnwyr byd go iawn Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar drafodaethau a dealltwriaeth o’r brif ddamcaniaethau sy’n effeithio’r byd heddiw.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5