Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
SC21310
Teitl y Modiwl
Dulliau Ymchwil Meintiol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
PS11320 neu SC11320 Students must have taken either PS11320 or SC11320
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Ymchwil  2000 o eiriau  70%
Asesiad Ailsefyll .5 Awr   Cwis  Cwis MCQ .5 Awr  30%
Asesiad Semester Adroddiad Ymchwil  2000 o eiriau  70%
Asesiad Semester .5 Awr   Cwis  Cwis MCQ .5 Awr  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Casglu data meintiol gan ddefnyddio offer, dulliau neu dechnegau priodol

Dewis a chymhwyso dadansoddiadau ystadegol priodol at setiau data

Dewis a chymhwyso gwybodaeth am gynlluniau ymchwil priodol er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil

Dod i gasgliadau yng ngoleuni canlyniadau dadansoddiadau ystadegol

Rhannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol

Dangos eich bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol

Disgrifiad cryno

Gan ychwanegu at y sgiliau a'r ddealltwriaeth a ddatblygwyd yn eich blwyddyn astudio gyntaf, bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddysgu rhagor o sgiliau ymarferol er mwyn datblygu cynlluniau ymchwil meintiol a dewis a chymhwyso ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau ystadegol i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil o ddiddordeb seicolegol.

Cynnwys

Egwyddorion, athroniaeth a moeseg mewn gwaith ymchwil meintiol
Ymchwilio i ddata: Mesuriad, mathau ar newidion, graddfeydd, gwall mesur ac ystadegol, dosbarthu, tybiaethau ystadegol, dibynadwyedd a dilysrwydd
Ymchwilio i berthnasau a rhagweld newidion: Cydberthynas, atchweliad llinol syml, atchweliad lluosog
Ymchwilio i'r gwahaniaethau rhwng grwpiau/amodau: Cynlluniau rhyng-gyfranwyr, o fewn cyfranwyr a chynlluniau cymysg a ffactorol
Ymchwilio i ddata categorïaidd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cydweithio i gynllunio a chynnal astudiaeth o ffenomena seicolegol ar raddfa fechan.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau i rannu canlyniadau dadansoddiadau ystadegol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddatrys problemau ymarferol sy'n ymwneud â chynllunio a dadansoddi ymchwil. Rhoddir pwyslais ar weithredoli cynlluniau ymchwil a dewis ffurfiau priodol ar ddadansoddiadau.
Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor o sgiliau i ddefnyddio meddalwedd arbenigol i adolygu, i fodelu ac i ddadansoddi data rhifol.
Myfyrdod Mae sesiynau ymarferol yn gyfle i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn gallu cymhwyso'r wybodaeth sydd ganddynt am brofion ystadegol at ddata seicolegol. Bydd myfyrwyr yn gallu monitro’u perfformiad eu hunain drwy ddefnyddio'r adnoddau hunan-wirio i arwain eu datblygiad.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn datblygu rhagor ar eu sgiliau ymchwil drwy ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn ffordd foesegol a'u bod yn gallu dewis y casgliad cywir o ddata ymchwil ynghyd â'r offer dadansoddi cywir.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5