Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Prawf ail-sefyll 40 Munud | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Cynllun gwaith ar gyfer Defnydd Diogel o Dechnoleg Fferm 750 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Technoleg Fferm 1500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Prawf mewn dosbarth 40 Munud | 40% |
Asesiad Semester | Adroddiad Technoleg Fferm 1500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Cynllun gwaith ar gyfer Defnydd Diogel o Dechnoleg Fferm 750 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Disgrifio rôl a datblygiad technolegau amaethyddol allweddol
Nodi a gwerthuso rôl Ffermio Manwl Gywir ac egluro'r egwyddorion allweddol dan sylw
Dangos dealltwriaeth o egwyddorion Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a sut y gellir eu cymhwyso i reoli systemau amaethyddol yn fwy effeithlon
Nodi'r mesurau iechyd a diogelwch sydd eu hangen i sicrhau gweithrediad diogel ac arfer gorau ar ffermydd
Arddangos y gallu i gynllunio ar gyfer defnydd diogel ac effeithiol o dechnoleg ar ffermydd
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn disgrifio’r egwyddorion a’r arferion sy’n sail i’r ystod eang o dechnolegau sy’n cael eu datblygu a’u mabwysiadu gan y diwydiant amaethyddol. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos eu gallu i gynllunio ac ymgymryd â sgiliau fferm technegol mewn modd diogel sy'n gyson ag arferion gorau.
Cynnwys
• Datblygiad Peiriannau ac Offer Fferm
• Technoleg Ffermio Fanwl Gywir
• Defnydd o Adnoddau ac Ynni ar Ffermydd
• Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a Mapio Tir Amaethyddol
Bydd y modiwl hefyd yn cynnig y cyfle i ennill profiad o gynllunio gwaith fferm yn ddiogel ac effeithiol ac i ymgymryd â sgil fferm technegol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn creu cynllun gwaith ar gyfer defnyddio technoleg yn ddiogel ar ffermydd. Dylid ysgrifennu hwn mewn modd sy'n adlewyrchu normau cyfredol y diwydiant a gofynion deddfwriaethol. |
Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd swyddfa a meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) wrth gwblhau aseiniadau |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dehongli ffynonellau allanol o wybodaeth a bydd angen iddynt wneud defnydd priodol ohonynt mewn aseiniadau |
Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio technoleg fferm |
Synnwyr byd go iawn | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod risgiau yn gywir wrth weithio mewn amgylchedd fferm |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4