Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM5620
Teitl y Modiwl
Prosiect Arbenigol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio o destunau arbenigol  50%
Asesiad Ailsefyll Cronfa o derminoleg arbenigol  20%
Asesiad Ailsefyll Sylwebaeth yn olrhain y broses gyfieithu  30%
Asesiad Semester Portffolio o destunau arbenigol  50%
Asesiad Semester Cronfa o derminoleg arbenigol  20%
Asesiad Semester Sylwebaeth yn olrhain y broses gyfieithu  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth gadarn o anghenion cyfieithu meysydd arbenigol

Addasu eu sgiliau iaith wrth ymwneud â therminoleg anghyfarwydd

Trosglwyddo sgiliau o feysydd cyfieithu cyffredinol i feysydd cyfieithu arbenigol

Cyfieithu testunau arbenigol yn gywir, yn gyflym ac yn effeithlon

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu arbenigedd cyfieithu mewn maes dewisol. Cyflwynir iddynt strategaethau er mwyn adnabod nodweddion gwahanol feysydd a gosodir tasgau heriol er mwyn mireinio sgiliau cyfieithu arbenigol. Cyflwynir hefyd strategaethau a chyfleoedd ymarferol i ymchwilio i derminoleg a gwybodaeth sy’n benodol i faes arbennig.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau a gyflwynwyd yn y modiwlau craidd a rhoi cyfle iddynt ddatblygu arbenigedd cyfieithu mewn maes penodol e.e. maes deddfwriaethol, addysg, gofal ac iechyd.

Cynnwys

i. Cynhelir gweithdy cychwynnol a fydd yn cynnwys sesiynau er mwyn gosod seiliau cyffredinol ac er mwyn trafod a dethol maes arbenigol. Yn dilyn hynny, cynhelir sesiynau cefnogi ar-lein er mwyn trafod y tasgau a chyflwyno adborth.
ii. Cynhelir 2 sesiwn arall wyneb yn wyneb yn ystod y modiwl, wedi’u teilwra yn ôl gofynion prosiectau unigol.
iii. Cynhelir gweithdai amrywiol gan arbenigwyr penodol e.e. ym maes deddfwriaeth / technoleg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd cyfle i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach wrth ddatblygu ymwybyddiaeth o feysydd arbenigol. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y gwaith uniongyrchol a gwblheir ar leoliad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. Hefyd, ceir mewnbwn allweddol gan gyfieithwyr profiadol er mwyn cefnogi cynlluniau personol y myfyrwyr a cheir cyfle i rwydweithio gyda chyfieithwyr proffesiynol.
Datrys Problemau Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminolegau ac adnoddau iaith i’w defnyddio wrth ymdrin â thestunau arbenigol. Wrth drafod adnoddau a thestunau gydag arbenigwyr, byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddanthefydyntrafodadborthac yncyfrannu’nadeiladol at waith y grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Wrth lunio’r Prosiect bydd y myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu ac yn derbyn adborth rheolaidd. O ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr yn y diwydiant cyfieithu er mwyn medru perfformio ar lefel broffesiynol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gwblhau cyfres o gyfieithiadau, trwy ddefnyddio technoleg a thrwy gydweithio ag arbenigwyr o fewn y maes cyfieithu.
Sgiliau ymchwil Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa a’r cyfarpar addas i’w defnyddio o fewn meysydd penodol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar cyfieithu er mwyn cyflwyno aseiniadau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7