Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY11520
Teitl y Modiwl
Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   50%
Arholiad Semester 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Trawthawd 2  (1000 o eiriau)  30%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1  (500 o eiriau)  20%
Asesiad Semester Traethawd 1  (Semester 1 - 500 o eiriau)  20%
Asesiad Semester Traethawd 2  (Semester 2 - 1000 o eiriau)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dangos dealltwriaeth o themâu, o genres ac o ffigurau llenyddol hanesyddol a chyfoes (barddoniaeth a rhyddiaith);

dangos dealltwriaeth o brif dueddiadau llenyddol y cyfnod fel yr amlygant eu hunain yng ngwaith llenorion y cyfnod;

medru trafod (ar lafar ac yn ysgrifenedig) detholiad o destunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yng nghyd-destun canon yr awdur, ynghyd â’u cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu, o genres ac o ffigurau llenyddol Cymru (barddoniaeth a rhyddiaith), yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Dechreuir â llenyddiaeth gyfoes er mwyn atgyfnerthu gwybodaeth y myfyrwyr o gyweiriau llenyddol cyfoes, cyn eu cyflwyno i gyweiriau llenyddol hanesyddol mwy ymestynnol

Nod

Mae’r modiwl craidd hwn yn rhoi trosolwg beirniadol i fyfyrwyr o themâu, o genres ac o ffigurau llenyddol Cymru a’r Gymraeg, yn ogystal â’u galluogi i werthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol.

Cynnwys

Dilynir fformat Gweithdy a Darlith wythnosol ar y modiwl hwn. Bydd y Gweithdy yn cyflwyno geirfa ymarferol a chysyniadol, a bydd hefyd yn gyfle i drafod testunau’n fanwl.
Semester 1: Llên Gyfoes
1. Troad yr ugeinfed ganrif (canu telynegol)
2. R. Williams Parry
3. T.H. Parry-Williams
4. Bobi Jones
5. Gerwyn Wiliams
6. Kate Roberts, ‘Y Taliad Olaf’
7. Islwyn Ffowc Elis, ‘Y Tyddyn’
8. Martin Davies, ‘L’acte Gratuite’
9. Mihangel Morgan, ‘Nia’
10. Manon Steffan Ros, Y Stelciwr
Semester 2: Llên Hanesyddol
1. Cyflwyniad i’r traddodiad barddol
2. Y canu arwrol
3. Y canu englynol
4. Y canu llys
5. Dafydd ap Gwilym
6. Y dadeni a’i ganlyniadau
7. Awduron rhyddiaith yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg
8. Traddodiad Goronwy Owen
9. Traddodiad Pantycelyn
10. Canu telynegol y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ar y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp; trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau; defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y Bwrdd Du.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4