Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY01020
Teitl y Modiwl
Sylfaen Sgiliau Academaidd 1
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1  Ailsefyll yr elfennau a fethwyd yn unig (hyd at uchafswm o 3000 gair). Ni fydd newid i strwythur yr aseiniad ond detholir cwestiynau/cynnwys newydd neu ddiwygiedig. (600 gair)  20%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 3  (1500 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 2  (900 gair)  30%
Asesiad Semester Aseiniad 3  (1500 gair) Traethawd adolygu beirniadol ar adnoddau cymharol dethol  50%
Asesiad Semester Aseiniad 2  (900 gair) Adroddiad ar aseiniad academaidd dethol a sgiliau cysylltiedig  30%
Asesiad Semester Aseiniad 1  (600gair) Aseiniad arfer academaidd: anodiadau a gwerthuso deunydd astudiaeth achos (600 gair)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Adnabod a defnyddio iaith academaidd briodol wrth ysgrifennu a siarad.

2. Adnabod a defnyddio strategaethau ar gyfer dethol deunydd cyfeirio a arfarnwyd gan gymheiriaid ac asesu gwerth beirniadol deunydd sydd heb ei arfarnu gan gymheiriaid a deunydd ar-lein.

3. Defnyddio strategaethau effeithiol ar gyfer gwrando, cymryd nodiadau, trawsieithu mewn cyd-destunau darpariaeth ddwyieithog a phrosesu gwybodaeth yn eu trafodaethau beirniadol a’u hysgrifennu beirniadol eu hunain.

4. Defnyddio strategaethau effeithiol ar gyfer darllen, crynhoi, aralleirio, trawsieithu wrth ddefnyddio deunydd ysgrifenedig a chyfeirnodi gwaith academaidd yn briodol.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn gweithio gyda disgwrs academaidd ffurfiol mewn cyd-destunau llafar ac ysgrifenedig. Pwysleisir deall sut y datblygir dadleuon a sut y’u cefnogir gan amrywiaeth o destunau academaidd, proffesiynol a chyfryngol. Bydd gweithgareddau dysgu yn cefnogi myfyrwyr i adnabod strategaethau effeithiol ar gyfer darllen, cymryd nodiadau, ysgrifennu, gwrando a siarad, drwy gyfres o wahanol blatfformau cyfryngol. Byddant hefyd yn adnabod a gwerthuso gwahaniaethau rhwng ysgrifennu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion - er enghraifft, ysgrifennu yn y cyfryngau o’i gymharu ag ysgrifennu mewn cyd-destunau academaidd – gyda golwg ar ysgrifennu a chyfathrebu’n briodol yn y byd academaidd a phroffesiynol.

Cynnwys

Mae’r themâu a ymdrinnir â hwy yn y modiwl fel a ganlyn. Gellir ymdrin â rhai elfennau (e.e. arfer academaidd) yn fwy trylwyr nag eraill yn unol â’u pwysigrwydd a’u perthnasedd i’r garfan o fyfyrwyr dan sylw.

Bydd y dysgu wythnosol yn cynnwys cyflwyniad ar bwnc penodol ynghyd â seminar grŵp lle mae myfyrwyr yn trafod, cynhwyso ac eangu ar themâu allweddol y cyflwyniadau. Mae’r themâu yn gweithio ar sail gronnus er mwyn integreiddio datblygu sgiliau. Mae pwyslais cryf ar sut mae datblygu sgiliau yn adeiladu tuag at ddatblygu aseiniadau yn y modiwl hwn a modiwlau eraill. Gofynnir i fyfyrwyr gyfranogi’n weithredol, ymgymryd â gweithgareddau arfarnu gan gyfoedion, a gwerthuso a chloriannu eu strategaethau dysgu a’u cynnydd.

Adnabod eich gradd: dehongli’r bas data cynlluniau astudio a modiwlau er mwyn adnabod manylion aseiniadau ar ac ar draws modiwlau a ddewisir.

Y sgiliau rydych eu hangen: proffilio’r ystod o sgiliau academaidd y gall myfyrwyr ddisgwyl eu defnyddio ar eu gradd a ffyrdd o ddatblygu neu wella’r sgiliau y maent eisoes yn meddu arnynt.

Cyflwyniad i Primo (dysgir gan lyfrgellydd pwnc Gwasanaethau Gwybodaeth): datblygu sgiliau a strategaethau ar gyfer defnyddio adnoddau llyfrgell ar-lein ac ar gampws, gan gynnwys Primo, Google Scholar, Llyfrgell Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a rhwydweithiau perthnasol eraill.

Cyflwyniad i ddadansoddi genre: dethol erthyglau a arfarnwyd gan gymheiriaid sy’n berthnasol i ddisgyblaeth/diddordebau’r myfyriwr a’u dadansoddi i adnabod nodweddion allweddol arfer academaidd da.

Agweddau hanfodol ar arfer academaidd da: adnabod ac arfer sgiliau allweddol, gan gynnwys cyfeirio, dyfynnu, cyfeirnodi, llyfryddiaethau, aralleirio, crynhoi, cyfieithu a thrawsieithu. Er mwyn gwneud hyn yn berthnasol i’r disgyblaethau amrywiol sy’n cynnig blwyddyn sylfaen, cynhwysir dadansoddiad cymharol sy’n edrych ar ddefnyddio systemau cyfeirnodi Harvard, APA, MLA, MHRA, IEEE, troednodiadau/ôl-nodiadau ac eraill yn ôl yr angen. Anogir y myfyrwyr i gyrchu a dilyn y systemau a ddefnyddir gan eu hadrannau.

Dadleuon rhesymegol: canfod patrymau mewn dadleuon ysgrifenedig ac ar lafar, a datblygu strategaethau i gyflwyno dadleuon yn rhesymegol.

Cyfathrebu priodol: dadansoddi sut mae genre, cynulleidfa a chyd-destun (e.e. academaidd, proffesiynol, cyfryngol) yn dylanwadu ar ddewisiadau cynnwys, iaith ac arddull mewn cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys cywair, defnyddio’r iaith lenyddol, rheoli a defnyddio termau, arfau iaith cyfrifiadurol ac osgoi dylanwad y Saesneg.

Sgiliau ar gyfer darlithoedd: gweithio ar ddulliau gwrando ar gyfer gwybodaeth benodol, cymryd nodiadau wrth wrando, trawsieithu yng nghyd-destun modiwlau dwyieithog, prosesu a blaenoriaethu gwybodaeth.

Sgiliau ar gyfer seminarau: datblygu strategaethau ar gyfer arwain a chanoli trafodaethau beirniadol mewn seminarau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe’i datblygir drwy drafodaethau beirniadol mewn seminarau, aseiniadau ysgrifenedig a gweithgareddau gwaith tîm, ac ymarferon ar-lein drwy Blackboard.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae myfyrwyr yn adnabod diddordebau penodol a datblygir rhai gweithgareddau drwy negodi o gwmpas meysydd gyrfa posib.
Datrys Problemau Mae pob un o’r ymarferon ac aseiniadau yn yr ystafell ddosbarth yn cynnwys datrys problemau er mwyn darparu ymatebion sy’n addas ar gyfer y cyd-destun a dehongli strwythurau gyda strategaethau priodol.
Gwaith Tim Mae myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau arfarnu gan gyfoedion a gweithgareddau trafod ac adolygu eraill sy’n seiliedig ar weithio mewn tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gofynnir i fyfyrwyr fyfyrio ar ddatblygu sgiliau fel proses atblygol. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau arfarnu gan gyfoedion ac yn ymateb iddynt.
Rhifedd Fe’i datblygir drwy gymryd nodiadau, trefnu a blaenoriaethau syniadau.
Sgiliau pwnc penodol Mae myfyrwyr yn dysgu a chymhwyso egwyddorion damcaniaethol ysgrifennu, siarad a sgiliau eraill. Darperir iddynt gist offer feirniadol ar gyfer dehongli sefyllfaoedd cyfathrebu yn strategol ac yn fyrfyfyr.
Sgiliau ymchwil Mae’r gwaith i gyd yn gofyn am ddarllen, dadansoddi a strategaethau datblygu. Mae defnyddio rhestrau darllen Aspire, Primo ac adnoddau cysylltiedig a chyflenwol eraill yn hanfodol.
Technoleg Gwybodaeth Mae myfyrwyr yn defnyddio nifer o raglenni prosesu geiriau a chyflwyno wedi’u rhwydweithio. Maent hefyd yn defnyddio Blackboard ac yn adnabod gwerthoedd ffynonellau cyfeiriol ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3