Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CT30720
Module Title
Cyfraith Ewrop
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Pre-Requisite
LC20620, CT20620, LC30620 neu CT30620 Public Law / Cyfraith Gyhoeddus
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd  (2,500 gair)  50%
Semester Exam 2 Hours   50%
Supplementary Assessment Traethawd  (2,500 gair)  50%
Supplementary Exam 2 Hours   50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Egluro a dadansoddi arwyddocâd strwythurau cyfansoddiadol a sefydliadol sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.

2. Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel uwch o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd cyfraith Ewrop yn ogystal â safbwyntiau athrawiaethol a damcaniaethol ar gyfraith Ewrop.

3. Dangos dealltwriaeth feirniadol a datblygedig o sut y mae gwahanol gategorïau cyfraith Ewrop yn rhyngweithio a systemau cyfreithiol cenedlaethol.

4. Egluro, mewn modd cynhwysfawr, yr egwyddorion y seilir y farchnad fewnol arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain yn narpariaethau Cytuniadau a'u datblygu yn neddfwriaeth a chyfraith achosion eilaidd Llys Cyfiawnder Ewrop.

5. Defnyddio'r egwyddorion cyfreithiol perthnasol wrth ddatrys ac egluro problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Brief description

Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gorff sylweddol o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol aelod-wladwriaethau. Mae'r cwrs yn ymdrin a chyfraith sylwedd a chyfraith sefydliadol.

Content

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd ac yn egluro prif nodweddion y drefn gyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl yn canolbwyntio'n arbennig ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd â’r rheolau cyfreithiol sy'n llywodraethu'r farchnad fewnol.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Amherthnasol.
Communication Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar y myfyrwyr, fel unigolion ac fel grwp.
Improving own Learning and Performance Bydd cymryd rhan mewn seminarau a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Information Technology Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau a’r arholiad.
Personal Development and Career planning Gofyniad ar gyfer ymarfer cyfreithiol proffesiynol ac ar gyfer cyd-destun trawswladol ymarfer cyfreithiol modern.
Problem solving Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau.
Research skills Wrth ymchwilio a pharatoi ar gyfer y traethawd, y seminarau a’r arholiad.
Subject Specific Skills Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ewropeaidd yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd.
Team work Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau.

Notes

This module is at CQFW Level 6