Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu cyflwyniad llafar o hyd at 20 munud, a 10 munud ar gyfer cwestiynau. Dylai fod ar agwedd o gyfraith ddatganoledig, ac ar faes gwahanol i asesiad 1. 30 Munud | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect ymchwil Gofynnir i fyfyrwyr gyflawni prosiect ymchwil byr yn ymdrin ag agwedd o gyfraith ddatganoledig o'u dewis. 2000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu cyflwyniad llafar o hyd at 20 munud, a 10 munud ar gyfer cwestiynau. Dylai fod ar agwedd o gyfraith ddatganoledig, ac ar faes gwahanol i asesiad 1. 30 Munud | 50% |
Asesiad Semester | Prosiect ymchwil Gofynnir i fyfyrwyr gyflawni prosiect ymchwil byr yn ymdrin ag agwedd o gyfraith ddatganoledig o'u dewis. 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Deall a thrafod agweddau penodol a manwl o gyfraith a pholisi datganoledig Cymru mewn modd sydd yn briodol ar gyfer gwaith academaidd
Dangos gwybodaeth o'r gwahaniaethau mewn sylwedd rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr, ac oblygiadau hynny mewn ymarfer.
Dangos gwybodaeth o polisiau Cymreig yng nghyd-destu cyfreithiau rhanbarthau eraill y du, Cymru a Lloegr fel awdurdodaeth a'r DU fel gwladwriaeth.
Egluro arwyddocad cyfreithiau a pholisiau datganoledig, ac sut mae newidiadau yn yr rhain yn effeithio ar hawliau a budddiannau yr unigolyn.
Dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol, a dadansoddi arwyddocad yr ymchwil hwnnw, gyda chyfeirnodi priodol.
Dangos dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau cyfraith a pholisi Cymru o fewn cyd-destun y setliad datganoli.
Datblygu dealltwriaeth o ragolygon Cyfraith Cymru at y dyfodol.
Disgrifiad cryno
Ers 1999, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu deddfu ar sawl maes cyfreithiol, ac erbyn hyn y mae sawl agwedd o gyfraith Cymru sydd yn wahanol iawn i gyfraith Lloegr. Amcan y modiwl hwn felly fydd i drin a thrafod rhai o’r materion hyn, sef cyfraith gofal iechyd, cyfraith addysg, cyfraith tai, a dwyieithrwydd yn y gyfraith.
Nod
Amcanion y modiwl yw i feithrin dealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng cyfraith Cymru a chyfreithiau yn rhannau eraill y DU. Anogir cymharu gwahanol bolisiau, a'u gwerthuso o ran blaenoriaethau ac amcanion.
Cynnwys
2. Iechyd a chyfraith a pholisi iechyd
3. Addysg yng Nghymru
4. Cartrefi a hai
5. Dwyieithrwydd cyfreithiol a hawliau ieithyddol
6. Pynciau penodol ym maes datganoli a chyfraith ddatganoledig.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu proffesiynol | Cyflwyno gwaith llafar ac ysgrifenedig mewn modd priodol ar gyfer cynulleidfaoedd cyfreithiol |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Canfod deunyddiau penodol, a'u gwerthuso. Cymharu polisiau a gweithdrefnau. Ystyried oblygiadau gwahanol fesurau a blaenoriaethau. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Datblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi, cyflwyno gwybodaeth ac ysgrifennu a chyflwyno ar lafar mewn modd briodol i gynulleidfa proffesiynol ym maes y gyfraith a chyfiawnder. |
Synnwyr byd go iawn | Datblygu ymwybyddiaeth o wahanol flaenoriaethau mewn gwahanol rannau o'r DU. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5