Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd 1500 o eiriau | 50% |
Semester Assessment | Cyflwyniad Llafar Grwp | 50% |
Supplementary Assessment | Adroddiad Unigol 1500 o eiriau | 50% |
Supplementary Assessment | Os methwyd cyflwyniad llafar i gwblhau aseiniad 1,500 gair ar y pwnc a osodwyd. | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Adolygu a gwerthuso amrywiaeth o destunau, damcaniaethau a chysyniadau allweddol yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu.
Cymhwyso cysyniadau troseddegol a seicolegol damcaniaethol i ddigwyddiadau cyfoes a materion yn ymwneud â throseddu, rheolaeth gymdeithasol a chyfiawnder troseddol.
Deall, defnyddio a chyfleu dadleuon allweddol am faterion troseddegol a seicolegol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gallu llunio dadleuon troseddegol a seicolegol rhesymegol, a’u cyfiawnhau, mewn gwaith ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar a thrafodaethau gwaith grŵp.
Dangos dealltwriaeth o’r prif ddamcaniaethau, cysyniadau, trafodaethau ac ymdriniaethau ym maes troseddeg a seicoleg troseddu.
Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y mae troseddu, ymddygiad gwyrdroëdig ac erledigaeth yn cael eu llunio a’u harchwilio’n gymdeithasol, yn gyfreithiol ac yn seicolegol.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr lefel 1 fynd i’r afael â rhai o’r testunau a’r dadleuon allweddol ym meysydd troseddeg a seicoleg troseddu. Ar sail y sylfeini damcaniaethol a ddatblygwyd yn ystod semester 1, bydd y myfyrwyr yn ystyried digwyddiadau cyfoes a materion yn ymwneud â throseddu, ymddygiad gwyrdroëdig, rheolaeth, dioddefoleg a niwed (gweler e.e. Hillsborough; Grenfell; Brexit ac ati). Bydd ffocws cymhwysol y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr osod eu dealltwriaeth o ddamcaniaethau, cysyniadau a thrafodaethau o fewn cyd-destunau cymdeithasol, cyfreithiol, seicolegol, hanesyddol ac economaidd ehangach. Nod y modiwl yw annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau dadansoddol a beirniadol mewn perthynas â’r wybodaeth y maent wedi’i datblygu hyd yma.
Content
a) eich cyflwyno i'r modiwl, y nodau dysgu, yr asesiadau, a pha sgiliau y byddwch yn ceisio eu gwella.
b) pontio'r bwlch rhwng astudio troseddeg a'i gymhwyso. Gwneir hyn drwy wrando ar siaradwyr amrywiol sydd â phrofiad o gymhwyso theori/ymchwil troseddegol yn eu hymchwil a/neu broffesiwn eu hunain. Mae'r darlithoedd gwadd yn orfodol i'w mynychu a byddant yn rhan greiddiol o'ch asesiad cyntaf, a fydd yn adroddiad myfyriol ar UN pwnc y gwnaethoch ddysgu amdano trwy'r darlithoedd a dewis ymchwilio mwy amdano.
Mae'r seminarau yn sesiynau rhyngweithiol lle mae disgwyl i'r myfyrwyr baratoi ar gyfer a thrafod pwnc allweddol a neilltuwyd gan gydlynydd y modiwl. Bydd tair seminar yn trafod tri phwnc gwahanol, ac mae'n rhaid i'r myfyrwyr fynychu pob un ohonynt. Nod y seminarau hyn yw hyrwyddo dealltwriaeth y myfyrwyr o'r pynciau drwy drafod yr ymchwil o'u cwmpas mewn modd cydweithredol.
Yn ystod y seminar, bydd y darlithydd yn arwain trafodaeth gydweithredol ymhlith y myfyrwyr ar y pwnc y maent wedi paratoi ar ei gyfer. Gallai hynny gynnwys ymateb i'r cwestiynau ar y dafliad, nodi polisi/deddfwriaeth gyfoes sy'n berthnasol i'r pwnc, trafod materion dadleuol/moesegol, a thrafod mesurau posibl y gellid eu cymhwyso mewn bywyd go iawn (yn dibynnu ar beth yw'r pwnc).
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau allweddol darllen a deall astudiaethau yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu. Bydd gofyn iddynt ymdrin â data empirig a bydd gofyn eu bod yn gallu deall natur ymchwil wyddonol gymdeithasol yn ei amryw ffurfiau. |
Communication | Llafar Unigol: Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy roi cyflwyniadau mewn seminarau yn rhan o’u hasesiad. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. Poster Grŵp: Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu grŵp ymhellach wrth baratoi a rhoi cyflwyniad poster ac wrth ymateb i gwestiynau. Adroddiad Ysgrifenedig: Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu, ac asesir eu cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith cadarn, a’u gallu i lunio dadl gydlynol. |
Improving own Learning and Performance | Bydd seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac ochrol gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain. |
Information Technology | Bydd chwilio am ddeunydd o ffynonellau gwybodaeth electronig ar-lein a chyrchu gwybodaeth o gyfnodolion electronig yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Defnyddir sgiliau TG i gael gafael ar wybodaeth ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno gwaith i’w asesu wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau. |
Personal Development and Career planning | Bydd paratoi ar gyfer y seminarau a’r aseiniadau asesedig yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd cymharu ffynonellau ar gyfer asesiadau yn datblygu sgiliau ymchwil. Bydd meithrin gwerthfawrogiad o faterion damcaniaethol cymhleth a’u cymhwyso i faterion a digwyddiadau cyfoes yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Bydd yr holl sgiliau hyn yn cyfrannu at bortffolio ehangach y myfyriwr o sgiliau trosglwyddadwy. |
Problem solving | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ystyried, trafod a defnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau a chysyniadau yn ymwneud â throseddeg a seicoleg troseddu. Yna, bydd disgwyl iddynt ddatblygu eu sgiliau datrys problemau a meddwl ochrol trwy gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i faterion a digwyddiadau cyfoes perthnasol. |
Research skills | Mae astudio troseddeg yn gofyn am y gallu i ddarllen yn hyderus ar draws amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau ymchwil a disgyblaethau. Mae’r modiwl yn annog datblygu’r gallu hanfodol hwn |
Subject Specific Skills | Amherthnasol. |
Team work | Bydd y gweithgareddau yn y gweithdai yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm, a bydd y cyflwyniad poster grŵp yn golygu bod angen datblygu’r gallu i weithio mewn tîm. |
Notes
This module is at CQFW Level 4