Gwybodaeth Modiwlau
Module Identifier
CT13120
Module Title
Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Troseddegwyr
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Aseiniad 1 1500 o eiriau | 50% |
Semester Assessment | Aseiniad 2 1500 o eiriau | 50% |
Supplementary Assessment | Aseiniad 1 1500 o eiriau | 50% |
Supplementary Assessment | Aseiniad 2 1500 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Deall sut i ysgrifennu a chyfeirio mewn ffordd academaidd gadarn.
Deall hanfodion datblygu a dylunio ymchwil.
Deall sut i ddylunio a chyflwyno cyfweliad lled-strwythuredig gyda phartner
Llunio a defnyddio holiadur arolwg sylfaenol.
Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol fanteision a chyfyngiadau dyluniadau dulliau meintiol, ansoddol cymysg.
Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol o sut i asesu astudiaethau ymchwil troseddegol empirig yn feirniadol.
Brief description
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, datblygu sgiliau arsylwi a chynnal cyfweld ac arolygu un i un.
Content
Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:
Ysgrifennu a chyfeirio academaidd Dyluniad ymchwil
Moeseg ymchwil
Dyluniad holiadur
Cyfweld ansoddol
Methodelegau dadansoddi ansoddol sylfaenol
Ysgrifennu a chyfeirio academaidd Dyluniad ymchwil
Moeseg ymchwil
Dyluniad holiadur
Cyfweld ansoddol
Methodelegau dadansoddi ansoddol sylfaenol
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Communication | Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu sut i ysgrifennu i safon academaidd uchel, a sut i gymhwyso cyfeiriadau Harvard i'w gwaith, a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu cyhoeddiadau ysgrifenedig. |
Improving own Learning and Performance | Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dyluniadau eu hunain o gyfweliad ac arolwg, sy'n gofyn am lefel dda o fyfyrio personol ar eu datblygiad a'u dysgu eu hunain. |
Information Technology | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu deunyddiau ar Blackboard, ond hefyd i ddefnyddio rhaglen arolwg ar-lein i gwblhau eu hail aseiniad. |
Personal Development and Career planning | Mae'r modiwl hwn wedi'i wreiddio'n fawr yn y byd go iawn, a sut y gellir cynnal ymchwil gyda phobl go iawn. Bydd y ddau aseiniad yn gofyn iddynt redeg gweithgaredd ymchwil gyda rhywun y tu allan i'r cwrs, a myfyrio ar ba mor dda y gweithiodd yr offer gyda phobl go iawn mewn cymdeithas. |
Problem solving | Mae ethos cyfan y modiwl yn troi o gwmpas datrys problemau. Dyma hanfod ymchwil gwyddorau cymdeithasol ac felly bydd y modiwl yn ymwneud yn helaeth ag annog a meithrin y sgil hon. |
Research skills | Mae gofyn i fyfyrwyr wneud y gwaith o ddylunio a chyflwyno cyfweliad lled-strwythuredig gyda phartner. O'r herwydd, bydd gofyn iddynt ddeall a chymhwyso elfennau cymhleth dylunio ymchwil ansoddol |
Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil, pe byddent yn penderfynu ymgymryd a thraethawd hir empirig yn eu trydedd flwyddyn. |
Team work | Bydd y ddau aseiniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyrwyr weithio gydag un arall i gynhyrchu a) amserlen gyfweld a b) holiadur arolwg (er y bydd yr aseiniadau'n cael eu hysgrifennu'n unigol). Bydd y seminarau a'r gweithdai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd drwyddi draw mewn ffordd ymarferol iawn. |
Notes
This module is at CQFW Level 4