Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CB27220
Module Title
Ymddygiad Defnyddwyr a Phrynwyr
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig  (2,500 gair)  40%
Semester Exam Gwaith ysgrifenedig  60%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig  (2,500 gair)  40%
Supplementary Exam Arholiad  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Cymhwyso gwahanol safbwyntiau damcaniaethol ynghylch yr 'Hunan' a sut mae’r rhain yn gysylltiedig ag ymddygiad defnyddwyr.

2. Esbonio safbwyntiau am ddefnyddwyr fel unigolion, eu hanghenion a’u cymhellion unigol, gan adnabod sail resymegol ac emosiynol llawer o’u gweithredoedd.

3. Disgrifio gwahanol bersbectifau cymdeithasol-ddiwylliannol ynghylch sut, ble, pryd, beth a pham y mae unigolion a grwpiau yn prynu.

4. Dangos dealltwriaeth o’r defnyddiwr fel bod cymdeithasol, eu hanghenion cymdeithasol, eu cymhellion, a’u safleoedd o fewn strwythurau cymdeithasol a sut y bydd y rhain yn llywio eu penderfyniadau ynglŷn a phrynu.

Brief description

Mae ymddygiad defnyddwyr a phrynwyr yn canolbwyntio ar sut y mae defnyddwyr yn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â'r eitemau y maent yn eu prynu. Mae hyn yn cynnwys y ddealltwriaeth seicolegol o'r hyn y maent yn ei brynu, pam y maent yn ei brynu, ymhle y maent yn ei brynu, pa mor aml y maent yn ei brynu a pha mor aml y maent yn ei ddefnyddio.

Content

Sylfeini Ymddygiad Defnyddwyr
- Prosesau ymddygiadol
- Canlyniadau ymddygiadol

Dylanwadau seicolegol ar brynwriaeth
- Prosesau emosiynol
- Prosesu gwybyddol
- Personoliaeth a'r Hunan

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd ymchwil cynradd yn gofyn am sgiliau llunio graffiau a sgiliau rhifyddol.
Communication Bydd y seminarau’n gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar a chyflwyno, a bydd y gwaith cwrs yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr yn ymwneud â busnes.
Improving own Learning and Performance Cyflawnir hyn trwy’r seminarau, y gwaith cwrs a’r trafodaethau yn y darlithoedd.
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn aml. Cyflwyno gwybodaeth a data. Defnyddio e-bost/y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau, credoau a rhinweddau personol, mewn perthynas â chynnydd ar y cwrs/gyrfaol – bydd y myfyrwyr yn gallu trosi theori yn ymarfer a dysgu yn ddealltwriaeth.
Problem solving Nodi problemau. Nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl. Datblygu dulliau o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision atebion posibl. Llunio ymateb rhesymegol i broblem.
Research skills Deall ystod o ddulliau ymchwil. Cynllunio a chynnal ymchwil. Defnyddio ymchwil cynradd i drosi elfennau o theori yn ymarfer.
Subject Specific Skills Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymchwil ym maes ymddygiad cwsmeriaid. Ymdrinnir ag amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag ymddygiad cwsmeriaid, er enghraifft: canfyddiad, cymhelliant, agweddau a gwerthoedd, y rhan mae strwythurau cymdeithasol yn ei chwarae wrth lunio hunaniaethau cwsmeriaid, ac ati.
Team work Bydd ymarferion yn y dosbarth a gwaith yn y seminarau yn gyfle i’r myfyrwyr wella eu sgiliau gweithio mewn tîm.

Notes

This module is at CQFW Level 5