Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CB25120
Module Title
Gweithrediadau a Rheoli'r Gadwyn Cyflenwi
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Adroddiad ysgrifenedig  (2,500 gair)  40%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  60%
Supplementary Assessment Adroddiad ysgrifenedig  (2,500 gair)  40%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Trafod theori rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi, gan gloriannu’r wybodaeth berthnasol a’i rhoi ar waith.

2. Cloriannu’n feirniadol systemau ar gyfer rheoli deunyddiau, stocrestrau a chapasiti yn weithredol.

3. Adolygu’n feirniadol y modd y caiff cadwyni cyflenwi eu dylunio, eu cynllunio a’u rheoli.

4. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd ac effaith newidiadau technolegol mewn gweithrediadau busnes.

5. Nodi a thrafod y materion cyfredol yn ymwneud â gweithrediadau a rheoli cadwyni cyflenwi a wynebir gan sefydliadau.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i amrywiaeth o bynciau o dan y pennawd cyffredinol rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Mae’r modiwl yn meithrin dealltwriaeth ynghylch sut i roi cysyniadau/technegau perthnasol yn ymwneud â gweithrediadau a chadwyni cyflenwi ar waith i reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi yn effeithiol, ac i ddatrys problemau busnes.

Content

- Rheoli gweithrediadau, ennill cwsmeriaid a chystadlu mewn modd effeithiol
- Gweithrediadau, prosesau a chylchredau oes
- Rheoli cadwyni cyflenwi
- Rheoli deunyddiau a pherfformiad stocrestrau
- Rheoli capasiti a galw
- Rheoli ciwiau a bodlonrwydd cwsmeriaid
- Rheoli ansawdd
- Cynnyrch a gwasanaethau newydd
- Dylunio prosesau a defnyddio technoleg
- Rheoli Gwelliannau Parhaus
- Risgiau a Methiannau TGCh
- Arloesi a gwella parhaus
- Rheoli prosiectau

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Dadansoddi adroddiadau ariannol ac adroddiadau eraill sy’n seiliedig ar wybodaeth rifyddol.
Communication Datblygu sgiliau cyfathrebu gan gynnwys sgiliau cyflwyno a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi.
Improving own Learning and Performance Llunio strategaethau realistig ar gyfer hunan-ddysgu, a’u rhoi ar waith. Adolygu a monitro’u perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser.
Information Technology Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn eang, paratoi a dadansoddi data, cyflwyno gwybodaeth.
Personal Development and Career planning Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella eu cyfleoedd gyrfaol. Byddant hefyd yn gallu ystyried goblygiadau cadwyni cyflenwi a gweithrediadau yn eu dewis yrfa.
Problem solving Nodi problemau. Datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision. Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem.
Research skills Gwneud ymchwil ar reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Dod o hyd i ddeunydd ffynhonnell perthnasol ar gyfer aseiniadau ac astudiaethau achos.
Subject Specific Skills Bydd myfyrwyr yn gallu deall, a dadansoddi gweithrediadau a chadwyni cyflenwi ac ystyried sut y gall yr elfennau hyn ddarparu mantais gystadleuol a gofynion capasiti yn eu dewis yrfa a’u sefydliad.
Team work Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, cyfrannu’n effeithiol i weithgareddau grŵp, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a seminarau.

Notes

This module is at CQFW Level 5