Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Exam 3 Awr | 60% |
Arholiad Semester | 3 Awr Exam 3 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Ail-eistedd 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Aseiniad Semester 2000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Egluro'r prosesau ecolegol sy'n digwydd wrth gynhyrchu bwyd.
2. Trafod y pwysau ar y diwydiant cyflenwi bwyd.
3. Adnabod yr effeithiau ar yr amgylchedd oherwydd dwysau amaethyddol.
4. Arfarnu effeithiau polisi bwyd a globaleiddio marchnadoedd bwyd.
5. Trafod y cysyniad o gynaliadwyedd wrth gynhyrchu bwyd.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn disgrifio'r wybodaeth wyddonol sydd ei hangen ar gyfer deall yr agweddau ecolegol cymhwysol sy'n rhan o gyfansoddiad systemau cynhyrchu amaethyddol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi ymwybyddiaeth i'r myfyriwr o effaith amaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Cynlluniwyd y modiwl er mwyn tynnu sylw at bynciau yn y gadwyn fwyd pobl gan gynnwys globaleiddio marchnadoedd bwyd, homogeneiddio systemau cynhyrchu, cynaliadwyedd, effeithiau dwysau amaethyddol a dyframaethu ar yr amgylchedd, datblygiad polisi amaethyddol, pryderon y cyhoedd ynghylch cynhyrch bwyd ac iechyd, lles anifeiliaid, a galwadau'r cwsmer a'r boblogaeth ar y diwydiant cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.
Cynnwys
• Amaeth a Bwyd
• Systemau Ffermio a’r Amgylchedd
• Atebion ar gyfer Systemau Amaethyddol Cynaliadwy
• Dyfodol Bwyd a Ffermio
Mi fydd y modiwl yn dechrau gyda trosolwg o wahanol agweddau o systemau cynhyrchu bwyd cyfredol gan edrych ar sut maent yn rhyngweithio gyda’r amgylchedd. Mi fydd heriau amgylcheddol systemau ffermio yn cael eu adnabod cyn y bydd atebion posib yn cael eu amlygu. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried dyfodol systemau ffermio a systemau cynhyrchu bwyd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol. Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Adnabod ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion posibl. Gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | Dadansoddi ymchwil wedi ei gyhoeddi. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen i fyfyrwyr i fynd i’r afael gyda gwaith ymchwil wedi ei adolygu gan gydweithwyr ac fe fydd hyn yn gofyn am ddefnydd effeithlon o beiriannau chwilio a darllen a gwerthuso papurau gwyddonol. |
Technoleg Gwybodaeth | Cyflwyno gwybodaeth a data. Canfod gwybodaeth ar y we. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5