Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG19320
Teitl y Modiwl
Ecoleg a Chadwraeth
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1 Awr   Traethawd  Arholiad 1 awr CADD  50%
Arholiad Semester 1 Awr   Traethawd  Arholiad 1 awr CADD  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad trip maes  1000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Aseiniad trip maes  1000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth o sut mae ecosystemau yn gweithio a swyddogaethau eu darnau

Deall ecoleg ddamcaniaethol sy’n berthnasol i gadwraeth

Deall ac adnabod y galw am gadwraeth o rywogaethau a chynefinoedd

Deall y ddamcaniaeth esblygiadol sy'n berthnasol i gadwraeth lwyddiannus.

Datblygu deallusrwydd o sgiliau arolygu yn y maes sy’n berthnasol i gadwraeth

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn gyflwyniad eang a chyfoes i bwnc ecoleg. Edrychwn ar sut mae systemau'n gweithio ond hefyd sut mae rhywogaethau wedi esblygu i fodoli o fewn y systemau hyn. Bydd y modiwl yn cynnwys elfennau sylfaenol ac amserol ac yn ystyried heriau'r dyfodol, megis ymateb i newid hinsawdd fyd-eang a gwarchod bioamrywiaeth. Rydym am amlygu sut mae cadwraeth wedi datblygu o fod yn gyfres o ymyriadau ad hoc o natur "ymladd tân" fel arfer, i fod wedi selio ar wyddoniaeth gyflawn sy'n ymgorffori agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar ecoleg a bioleg esblygiadol. Mae'r modiwl arfaethedig yn rhoi sylfaen i fyfyrwyr yn y cysyniadau hyn, gyda phwyslais cyson ar eu cymhwysiad ymarferol.

Nod

I ddeallt ecosystemau a'i cadwraeth

Cynnwys

Yr ecosystem yw'r uned astudio sylfaenol mewn ecoleg ac mae'n bwysig archwilio llawer o berthnasoedd pwysig rhwng organebau, planhigion ac anifeiliaid, â'u hamgylchedd anfiotig ar y lefel hon. I ddechrau, bydd dadansoddiad o ecosystem syml, y twndra Arctig, i ddangos sut mae’r amryw o gydrannau yn gweithio a rhyngweithio o fewn ecosystem. Caiff hyn ei wneud o fewn cyd-destun yr hierarchaeth ecolegol, sy'n ystyried trefniadaeth ecolegol o'r lefel unigol hyd at y biosffer.
Bydd amrywiaeth o ffactorau anfiotig yn cael eu hadolygu a'u hystyried mewn perthynas â ffactorau biotig gan gynnwys: llysysyddion, cigysyddion a chystadleuaeth. Mae ysglyfaethu yn un ffactor sy'n cyfyngu ar niferoedd y boblogaeth ac yn atal twf esbonyddol, tra yn yr un modd, mae cystadleuaeth am adnoddau yn cael effaith yr un mor bwysig. Yn ogystal, mae astudiaeth o'r defnydd o adnoddau gan rywogaethau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, a ddiffinnir yn gyffredinol fel y gilfach. O fewn ei ddosbarthiad, fodd bynnag, bydd rhywogaeth yn aml yn dangos addasiad i sefyllfaoedd penodol; bydd enghreifftiau o amrywiad o'r fath yn cael eu trafod.
Trafodir yr heriau sy’n wynebu ecosystemau, bioamrywiaeth a chynefinoedd, newid hinsawdd a’r galw am gadwraeth. Byddwn hefyd yn trafod pwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth ar ystod o raddfeydd, yn benodol trafodir amrywiaeth genetig ar lefelau biomau ac ecosystemau, theori esblygiadol a dulliau ymarferol o warchod rhywogaethau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail gweithio gyda eraill yn y maes
Datrys Problemau Creadigol Adrodd o'r maes
Gallu digidol Defnyddio TGCH ar gyfer ymchwilio
Myfyrdod Gwella'ch dysgu a'ch perfformiad eich hun drwy dderbyn adborth o asesiadau a ddefnyddiwyd i raddnodi sgiliau dysgu
Sgiliau Pwnc-benodol Cyfathrebu Mae angen cyfathrebu gwyddonol da i gofnodi canfyddiadau'r ymweliad maes
Synnwyr byd go iawn Gwaith maes yn ran hanfodol o'r modiwl

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4