Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
BBM8820
Teitl y Modiwl
Newid Ymddygiad
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Dysgu o Bell
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Fforwm Ar-lein (O leiaf 1200 o eiriau) | 25% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad (20 munud) | 35% |
Asesiad Semester | Astudiaeth Achos (3000 o eiriau) | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Esbonio'r heriau presennol a'r dyfodol sy'n gysylltiedig ag ymddygiad yn y gadwyn gyflenwi bwyd a bioseiliedig
2. Trafod hanes a chyd-destun newid ymddygiad
3. Disgrifio'r penderfynyddion seicolegol, cymdeithasegol a chyd-destunol ymddygiad
4. Dadansoddi a gwerthuso nifer o fodelau ac dulliau newid ymddygiad
5. Trafod moeseg a'u defnydd mewn ymyriadau newid ymddygiad
6. Cynnig a chymhwyso dulliau/modelau newid ymddygiad priodol ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd myfyrwyr yn dysgu am hanes a datblygiad newid ymddygiad fel disgyblaeth, gan gynnwys sut y gall esblygiad a datblygiad yr ymennydd dynol ddylanwadu ar ymddygiad a gyrwyr seicolegol ymddygiad yn ogystal a gwerthuso nifer o fodelau a dulliau o newid ymddygiad cydnabyddedig.
Bydd yn archwilio sut a lle y gellid defnyddio dulliau newid ymddygiad, tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chynnwys astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r sectorau cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd a biotechnoleg.

Cynnwys
Bydd y modiwl yn delio a’r canlynol:
1) Hanes/datblygiad dulliau newid ymddygiad - sut mae theori ac ymarfer wedi datblygu ac wedi cael eu defnyddio mewn cymdeithas a gwersi a ddysgwyd o ymarferwyr newid ymddygiad llwyddiannus
2) Y seicoleg a chymdeithaseg y tu ol i newid ymddygiad - sy'n cynnwys y mewnwelediadau ymddygiadol mwyaf dylanwadol neu gydnabyddedig a damcaniaethau newid ymddygiad.
3) Archwilio damcaniaethau sy'n ymwneud ag esblygiad a datblygiad yr ymennydd dynol - sut y gall ddylanwadu ar ymddygiad a'n helpu i ddeall sut mae dulliau newid ymddygiad yn gweithio
4) Cyd-destunoli a dylanwadau ymddygiad yr amgylchedd ehangach - sut y gallai ffactorau y tu allan i reolaeth unigolyn effeithio ar eu hymddygiad
5) Modelau sefydledig o newid ymddygiad - mae sawl model sy'n disgrifio sut y gellir rhoi damcaniaeth newid ymddygiad ar waith; bydd detholiad o fodelau sefydledig yn cael eu hesbonio'n fanwl
6) Moeseg newid ymddygiad - goblygiadau defnyddio dulliau newid ymddygiad i ddylanwadu ar weithredoedd pobl heb eu gwybodaeth na'u cydsyniad
7) Cymwysiadau newid ymddygiad - sut, pryd a ble y gellir defnyddio dulliau newid ymddygiad orau
8) Astudiaethau achos o ymyriadau newid ymddygiad sy'n berthnasol i sectorau bwyd-amaeth a biotechnoleg (e.e. lleihau gwastraff bwyd, ailgylchu, defnyddio ynni, plastig untro).

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr fynegi eu hunain yn briodol i’r aseiniad ac i drafod pynciau priodol a’u gilydd yn y fforymau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn rhoi i’r myfyrwyr yr ymchwil diweddaraf i fewn i egwyddorau newid ymddygiad i’w helpu i rannu gwybodaeth/cyngor diweddaraf gyda’u cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiannau bioseiliedig a bwyd-amaeth. Mae newid ymddygiad yn broses adlewyrchol fydd yn anochel yn arwain at ddatblygiad personol a bydd yr asesiadau yn cynnwys trafodaethau adlewyrchol, ond ni fydd asesiad penodol ar ddatblygiad personol gyrfaol. |
Datrys Problemau | Defnyddir fforymau ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy'n cyflwyno problemau damcaniaethol i'r myfyrwyr eu datrys. Mi fydd yr astudiaeth achos yn mynnu bod myfyrwyr yn cynnig ffyrdd o gymhwyso modelau newid ymddygiad i sefyllfaoedd penodol. |
Gwaith Tim | Bydd fforymau ar-lein yn mynnu bod myfyrwyr yn dadlau ymhlith ei gilydd i ddatblygu consensws barn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad i weld ble all gwelliannau gael eu gwneud ar gyfer yr aseiniadau nesaf. Bydd aseiniad furfiannol yn rhoi cyfle di-risg i gael adborth ac mi fydd 3 fforwm a asesir ble darperir adborth mewn da bryd i wella yn fforwmau canlynol. Bydd cwisiau amlddewis ffurfiannol yn galluogi i fyfyrwyr i weld ble sydd angen ffocysu eu astudiaeth hunangyfeiriedig. |
Rhifedd | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau yn eu haseiniadau a disgwylir i egluro neu arddangos tystiolaeth i ddilysu barn a fynegir yn yr astudiaeth achos neu’r fforymau. |
Sgiliau pwnc penodol | Theori a chymhwyso modelau newid ymddygiad. Gwerthusiad o'r gwahanol fodelau a dulliau newid ymddygiad. |
Sgiliau ymchwil | Trwy'r modiwl, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunanastudiaeth gyfeiriedig, gan wella eu medrau ymchwil llenyddiaeth. Yn ogystal â derbyn adborth o aseiniadau a fydd yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu gwybodaeth o amrywiaeth o gronfaoedd cyhoeddiadau gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd o'r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7