Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
ADM3820
Teitl y Modiwl
Ymateb i effeithiau tlodi ac anfantais mewn addysg
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Haf
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Adroddiad yn canolbwyntio ar dlodi ac anfantais o fewn cyd-destun eu pwnc/Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLE)/Ysgol 4000 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Adroddiad Adroddiad yn canolbwyntio ar dlodi ac anfantais o fewn cyd-destun eu pwnc/Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLE)/Ysgol 4000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth feirniadol o dlodi ac anfantais ar ddysgwyr
Gwerthuso'n feirniadol ymarfer a mesuriadau dysgu a datblygu gyda dysgwyr sy'n cael eu heffeithio gan dlodi ac anfantais
Archwilio'n feirniadol y dull systemau cyfan a sut mae hyn yn effeithio ar ymarfer.
Archwilio'n feirniadol sut i gynllunio, gweithredu a gwerthuso newid yn ymarferol a fydd o fudd i ddysgwyr sy'n cael eu heffeithio gan dlodi ac anfantais mewn lleoliadau addysgol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o dlodi ac anfantais, a sut mae'r rhain yn effeithio ar ddysgu a datblygu.
Mae'r modiwl hwn yn fodiwl dewisol a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod rhan tri o gyfnod dysgu'r radd. Mae'r modiwl yn ddewisol ar gyfer yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru). Y gynulleidfa darged ar gyfer y modiwl hwn fydd addysgwyr sy'n gweithio mewn sectorau a lleoliadau gwahanol.

Nod
1. Galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth feirniadol o dlodi ac anfantais a’u heffaith ar addysg
2. Gwerthuso'n feirniadol damcaniaethau, llenyddiaeth, ymarfer a mesuriadau
3. Gwerthuso'n feirniadol gyd-destunau penodol mewn perthynas â thlodi ac anfantais.
2. Gwerthuso'n feirniadol damcaniaethau, llenyddiaeth, ymarfer a mesuriadau
3. Gwerthuso'n feirniadol gyd-destunau penodol mewn perthynas â thlodi ac anfantais.
Cynnwys
Mae dros draean o blant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru yn byw mewn tlodi heddiw. Mae tlodi ac anfantais yn effeithio ar fywydau disgyblion, myfyrwyr, teuluoedd, staff a chymunedau. Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o dlodi ac anfantais, a sut mae'r rhain yn effeithio ar ddysgu a datblygu. Mae'n effeithio ar newidiadau radical mewn newidiadau parhaus i bolisi addysgol yng Nghymru. Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio'n feirniadol ar eu profiadau eu hunain a sut maent yn canfod tlodi ac anfantais yn bersonol. Gofynnir i fyfyrwyr fyfyrio'n feirniadol ar y ffyrdd y mae eu lleoliadau addysgol yn mesur dysgu a datblygu ac a yw hyn yn cefnogi'r materion parhaus sy'n gysylltiedig â thlodi ac anfantais. Yn olaf, mae'r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i fod yn greadigol wrth gefnogi dysgwyr yn y lleoliad addysgol o'u dewis a'r rhwystrau y gallant eu hwynebu ar hyd y ffordd, gan eu galluogi i feddwl am ffyrdd newydd o weithio yng Nghymru.
Bydd y modiwl hwn yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
· Diffiniadau o dlodi ac anfantais mewn cyd-destunau addysgol, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr, teuluoedd, a chymunedau
· Ymagweddau damcaniaethol at ymchwilio a deall effeithiau tlodi ar brofiadau a chanlyniadau addysgol, gan gynnwys ystyried croestoriadedd.
· Polisïau yng Nghymru ac ymateb i faterion tlodi ac anfantais i ddysgwyr
· Pwy sy'n 'ddigon tlawd' ym myd addysg? Cymhwysedd
· Demograffeg newidiol – mudo, rhyfel,
· Mesur dysgu a datblygu – 'targedau' 'bwlch cyrhaeddiad' 'presenoldeb' 'dilyniant'?
· Safbwyntiau athrawon ynghylch anfantais: Myfyrdod beirniadol
· Rôl yr addysgwr – oes llinell rhwng addysgu ac ymateb i dlodi ac anfantais?
· Datblygu galluoedd dysgu – Heb Maslow does dim Dewey.
· Ymagweddau System Gyfan – sut i gynllunio ar gyfer newid cadarnhaol
Bydd gan y modiwl hefyd siaradwyr gwadd sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol sydd wedi gweithredu newidiadau.
Darlithoedd
Cyfanswm oriau: 16
Math o Gyswllt:Wedi'i amserlennu
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn darlithoedd a gweithdai ar-lein i archwilio'r cysyniadau allweddol yn y modiwl hwn.
Seminarau
Cyfanswm oriau: 6
Math o Gyswllt:Wedi'i amserlennu
Bydd seminarau ar-lein yn annog myfyrwyr i fagu hyder a dyfnhau eu dealltwriaeth o'r cysyniadau sy'n cael eu haddysgu mewn grwpiau llai. Bydd dulliau o gyflwyno seminarau yn cynnwys 'dulliau dysgu gwrthdro' lle mae myfyrwyr yn cwestiynu materion allweddol cyn archwilio ymhellach gyda'u cyfoedion, a gefnogir gan diwtoriaid cwrs, yn ogystal â dulliau dysgu ar sail problemau a dulliau dysgu ar sail heriau.
Tasgau hunangyfeiriedig ac amser astudio unigol
Cyfanswm oriau: 178
Math o Gyswllt:Annibynnol
Rhwng sesiynau wedi'u hamserlennu, bydd gan fyfyrwyr gyfleoedd i ddarllen yn ehangach, ymgymryd â thasgau annibynnol i brofi syniadau a magu hyder yn eu hymarfer proffesiynol eu hunain.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Cymhwyso eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau trosglwyddadwy i ymgysylltu â phobl eraill, eu cefnogi a dylanwadu arnynt pan fo hynny'n briodol. |
Cyfathrebu proffesiynol | Datblygu arddulliau ysgrifennu clir a phriodol yn y Gymraeg neu Saesneg, sy'n hygyrch i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Cyrraedd casgliadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymwneud â materion cymhleth ym maes addysg yn gyffredinol, ac yn eu maes ymarfer proffesiynol yn benodol. |
Myfyrdod | Cymhwyso gwaith ymgysylltu â damcaniaeth a thystiolaeth i ddatblygu safbwyntiau personol a phroffesiynol newydd o'u hymarfer proffesiynol eu hunain. Gwerthuso eu hanghenion dysgu eu hunain er mwyn gosod ac adolygu eu hamcanion dysgu proffesiynol eu hunain |
Sgiliau Pwnc-benodol | Cymhwyso dulliau systematig o werthuso eu harferion eu hunain yn feirniadol mewn perthynas â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu ac Addysgu (2017). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7