Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
ADM3620
Teitl y Modiwl
Arloesi ac Arweinyddiaeth Cwricwlwm
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Haf
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Adroddiad yn canolbwyntio ar arloesi ac arweinyddiaeth cwricwlwm o fewn cyd-destun eu pwnc/Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLE)/Ysgol 4000 o eiriau | 100% |
Asesiad Semester | Adroddiad Adroddiad yn canolbwyntio ar arloesi ac arweinyddiaeth cwricwlwm o fewn cyd-destun eu pwnc/Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLE)/Ysgol 4000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dadansoddi a myfyrio ar ddulliau arweinyddiaeth cwricwlwm effeithiol.
Deall a dadansoddi arweinyddiaeth cwricwlwm yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru ac AOLEs
Dadansoddi’n gritigol dadleuon athronyddol a damcaniaethol allweddol ynglŷn â gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru.
Myfyrio’n gritigol ar strategaethau arloesol o ran datblygu cwricwlwm a myfyrio ar weithredu yn eu cyd-destunau a lleoliadau addysgol eu hunain.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio materion allweddol ynglŷn â Chwricwlwm, arweinyddiaeth ac arfer arloesol, gan dynnu ar ddadleuon damcaniaethol ac athronyddol
Fe’i targedir at weithwyr proffesiynol addysg. Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i werthuso yn gritigol eu dulliau eu hunain at ddatblygiad cwricwlwm ac arweinyddiaeth.
Mae’r modiwl hwn yn ddewisol ond mae’n dod yn un craidd unwaith ei fod wedi’i ddewis.

Nod
1- Archwilio a dadansoddi modelau arweinyddiaeth o fewn lleoliadau a chyd-destunau Addysgol.
2- Dadansoddi’n gritigol rôl arweinyddiaeth o fewn Cwricwlwm i Gymru ac i ddyfnhau eu dealltwriaeth o arweinyddiaeth wasgaredig.
3- Galluogi myfyrwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddadleuon damcaniaethol ac athronyddol allweddol o ran dylunio cwricwlwm a’i weithredu, ac i gymhwyso’r dulliau hyn yn eu hymarfer eu hunain.
4- Dadansoddi strategaethau arloesol mewn datblygiad cwricwlwm ac i adlewyrchu ar eu defnydd yn eu lleoliadau a chyd-destunau eu hunain.

Cynnwys
Mae’r modiwl hwn yn archwilio theorïau o arweinyddiaeth ac arloesi gyda phwyslais penodol ar y Cwricwlwm i Gymru. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi’n gritigol y dulliau gwahanol at arweinyddiaeth a defnyddio’r theorïau hynny i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain. Ymhellach, bydd y cyd-destun arweinyddiaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei archwilio gyda phwyslais ar ddeall arweinyddiaeth a rheolaeth wasgaredig o Feysydd Dysgu a Phrofiad gyda chyfeiriad at gyfrifoldeb ac asiantaeth athrawon. Bydd y modiwl hefyd yn tynnu ar ddadleuon athronyddol a damcaniaethol allweddol ynglŷn â theori addysgeg ac yn caniatau myfyrwyr i archwilio eu defnydd yn eu cyd-destunau a lleoliadau addysgol eu hunain. Yn ogystal â hyn, bydd y modiwl yn tynnu ar strategaethau arloesol ar gyfer cwricwlwm, dyluniad, gweithredu a rheolaeth ac yn caniatáu myfyrwyr i fyfyrio ar eu defnydd neu leoliadau a chyd-destunau addysgol eu hunain.
Bydd y modiwl yn cael ei strwythuro o gwmpas 4 thema allweddol gyda nifer o is-themau:
Theorïau Arweinyddiaeth mewn lleoliadau a chyd-destunau addysgol
• Theorïau arweinyddiaeth
• Modelau arweinyddiaeth wasgaredig yn erbyn arweinyddiaeth o’r brig i lawr
• Theorïau o arweinyddiaeth a rheolaeth mewn lleoliadau a chyd-destunau addysgol.
Arweinyddiaeth ac asiantaeth yn y Cwricwlwm i Gymru
• Cynnal datganoliaeth yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru
• Cefnogi gweithrediad athrawon drwy weithredu cwricwlwm
• Cynnal syniadau a herir a herio syniadau
• Atebolrwydd yn y Cwricwlwm i Gymru
• Gweithio ar y cyd
Dulliau damcaniaethyddol ac athronyddol at ddefnydd dylunio cwricwlwm o ran y Cwricwlwm i Gymru
• Cefnogi trosiant
• Defnyddio modelau cwricwlwm
• Asesiad ar gyfer y dyfodol
• Goblygiadau i arfer
Dulliau arloesol tuag at ddylunio cwricwlwm a’i ddarparu
• Gweithio’n effeithiol mewn clwstwr
• Scaling-up
• Astudiaethau achos o arloesi
• Goblygiadau ar gyfer arfer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
K1. Gwybodaeth fanwl, systematig ac uwch o gymhlethdod a natur amlochrog addysg, yn eu cyd-destun eu hunain, a’r tu hwnt.
K2. Dadansoddiad critigol o bolisi cyfredol, safbwyntiau damcaniaethol ac sy’n seiliedig ar ymarfer ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
K3. Dehongliad ac adlewyrchiad critigol, synthesis a defnyddio gwybodaeth ac ymchwil yn ei gyd-destunau proffesiynol ei hun.
K4. Synthesis a dadansoddiad cynhwysfawr, critigol o lenyddiaeth berthnasol.
K5. Ymwybyddiaeth gritigol o ddulliau methodolegol allweddol sy’n berthnasol i ymholiad proffesiynol.
K7. Caffaeliad systematig o gorff sylweddol o wybodaeth yn eu maes arfer proffesiynol.
K8. Gallu i gyfathrebu’n gywir ac yn glir ag ystod o gynulleidfaoedd
Darlithoedd
Cyfanswm oriau: 16
Math o Gyswllt:Wedi’u hamserlennu
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn darlithoedd a gweithdai, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i archwilio’r prif gysyniadau yn y modiwl hwn.
Seminarau
Cyfanswm oriau: 6
Math o Gyswllt:Wedi’u hamserlennu
Bydd seminarau yn annog myfyrwyr i adeiladu hyder ac ehangu eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a addysgir mewn grwpiau llai. Bydd dulliau tuag at ddarparu seminar yn cynnwys ‘dulliau dysgu gwrthdro’ ble mae myfyrwyr yn cwestiynu materion allweddol cyn archwilio ymhellach gyda’u cymheiriaid, wedi’u cefnogi gan diwtoriaid cwrs, yn ogystal â dulliau Dysgu’n Seiliedig ar Broblem a dysgu yn seiliedig ar her.
Tasgau Hunangyfeiriedig ac Amser Astudio Unigol
Cyfanswm oriau: 178
Math o Gyswllt:Annibynnol
Rhwng sesiynau a amserlenwyd, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddarllen yn ehangach, gwneud tasgau annibynnol i brofi syniadau, ac i feithrin hyder yn eu harfer proffesiynol eu hunain.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Defnyddio ei wybodaeth, dealltwriaeth a’i sgiliau trosglwyddadwy i ymgysylltu ag eraill, eu cefnogi, a lle bo’n briodol dylanwadu arnynt. |
Cyfathrebu proffesiynol | Datblygu arddulliau ysgrifennu clir a phriodol yn Gymraeg neu Saesneg, sy’n hygyrch i ystod o gynulleidfaoedd. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Cyrraedd casgliadau sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth sy’n ymwneud â materion cymhleth mewn addysg yn gyffredinol, ac yn ei faes arfer proffesiynol ei hun yn benodol. Dadansoddi llenyddiaeth a thystiolaeth yn gritigol i ddatblygu ei sgiliau ymholi ei hun |
Myfyrdod | Ymgysylltu â theori a thystiolaeth i ddatblygu safbwyntiau personol a phroffesiynol newydd o’i arfer broffesiynol ei hun. Ymgysylltu â theori a thystiolaeth i ddatblygu safbwyntiau personol a phroffesiynol newydd o’i arfer broffesiynol ei hun. Dadansoddi ei anghenion dysgu ei hun er mwyn gosod ac adolygu ei amcanion dysgu proffesiynol ei hun. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Defnyddio dulliau systematig i ddadansoddi ei arfer ei hun yn gritigol o ran y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu a Dysgu (2017). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7