Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD13620
Teitl y Modiwl
Sgiliau Allweddol i Brifysgol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 6 Awr   4. Cyflwyniad unigol gyda PowerPoint - 5 munud  20%
Arholiad Semester 6 Awr   4. Cyflwyniad unigol gyda PowerPoint - 5 munud  20%
Asesiad Ailsefyll 1. Asesiad ar-lein o sgiliau cyfeirio a llyfryddiaethol  10%
Asesiad Ailsefyll 2. Portffolio sgiliau allweddol - 1000 o eiriau  35%
Asesiad Ailsefyll 3. Prosiect gwaith grŵp:  a) Taflen A4 (25% o farc y prosiect b) Gwerthusiad o arferion gwaith grŵp (75% o farc y prosiect)  35%
Asesiad Semester 2. Portffolio sgiliau allweddol - 1000 o eiriau  35%
Asesiad Semester 3. Prosiect gwaith grŵp:  a) Taflen A4 (25% o farc y prosiect b) Gwerthusiad o arferion gwaith grŵp (75% o farc y prosiect)  35%
Asesiad Semester 1. Asesiad ar-lein o sgiliau cyfeirio a llyfryddiaethol  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos cymhwysedd mewn sgiliau academaidd a throsglwyddadwy allweddol.

Nodi ffyrdd o wella dysgu personol.

Deall a gwerthuso'r materion allweddol sy'n ymwneud a gwaith grwp.

Deall egwyddorion allweddol cyfathrebu ac arweinyddiaeth.

Dangos y gallu i weithio'n effeithiol ag eraill.

Bod yn hunan-fyfyriol o safbwynt sgiliau astudio a sgiliau trosglwyddadwy.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn dechrau trwy amlinellu'r prif sgiliau astudio y bydd gofyn i'r myfyrwyr eu datblygu. Bydd y rhain yn cynnwys cyfeirio, ysgrifennu traethodau, defnyddio ffynonellau academaidd, rheoli amser, gwerthuso'n feirniadol, a thechnegau ar gyfer arholiadau. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar sgiliau trosglwyddadwy allweddol, gan gynnwys gweithio mewn grwp, arweinyddiaeth, a chyfathrebu (a fydd yn berthnasol i DPP a chynllunio gyrfaoedd y myfyrwyr).

Nod

Darparu'r sgiliau astudio sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau aseiniadau academaidd ac arholiadau yn y brifysgol.
Galluogi myfyrwyr i weithio'n effeithiol mewn grwpiau.
Cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy allweddol i'r myfyrwyr.
Galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau hunan-fyfyrio a gwerthuso.

Cynnwys

1 Cyfeirnodi, ffynonellau dibynadwy ac annibynadwy, ymarfer academaidd annheg a rheoli amser.
(Gwybodaeth Aseiniad 1)
2 Dod o hyd i ffynonellau yn y brifysgol, defnyddio ffynonellau yn effeithiol a chwilio am erthyglau mewn cyfnodolion (ystafell gyfrifiaduron)
3 Deall meini prawf yr Ysgol Addysg, ysgrifennu academaidd, cynllunio ar gyfer traethodau yn y brifysgol, ysgrifennu beirniadol
4 Gwybodaeth Aseiniad 2 a chymorth ar gyfer Aseiniad 2
5 Gwybodaeth am y Llyfrgell Genedlaethol a thaith o’i hamgylch
6 Wythnos cyfoethogi modiwlau
7 Gwybodaeth Aseiniad 3 a theori gwaith grŵp
8 Prosiect gwaith grŵp a chymorth ar gyfer aseiniad 3.
9 Sgiliau allweddol ar gyfer gweithdy cyflogadwyedd
10 Sgiliau arholiad, adolygu a chyflwyno
11 Sesiwn datblygu cyflwyniadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Datblygir sgiliau cyflwyno llafar trwy drafodaethau yn y dosbarth a chyflwyniad a asesir. Datblygir sgiliau ysgrifennedig drwy'r aseiniadau. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau i gyfathrebu i wahanol gynulleidfaoedd trwy ddatblygu'r daflen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, gwaith tim, cyfathrebu, a sgiliau gwerthuso. Bydd y rhain yn cael eu hymgorffori i'r darlithoedd a'r seminarau ac yn cael eu hasesu fel agwedd greiddiol o'r modiwl.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi ffynonellau a thestunau amrywiol fel rhan o'u gwaith portffolio a'r prosiect grwp. Bydd gweithgareddau datrys problemau yn rhan o'r dalithoedd.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i weithio mewn grwpiau fel rhan o aseiniad y prosiect gwaith grwp. Hefyd, bydd pob seminar yn cynnwys elfen o waith grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr arwain eu hastudiaethau eu hunain o safbwynt y darllen ehangach a pharatoi ar gyfer yr aseiniad. Bydd mynychu'r sesiynau yn gwella ystod o sgiliau dysgu. Bydd y myfyrwyr yn myfyrio ynglyn a gwellianau i'w dysgu eu hunain mewn aseiniadau portffolio a chyflwyniadau.
Rhifedd Mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dadansoddi data rhifyddol wrth ymchwilio ar gyfer eu haseniadau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i gyfleu arferion a chyd-destunau addysgiadol i gynulleidfaoedd/dysgwyr amrywiol. Asesir hyn yn rhannol trwy'r daflen sgiliau astudio a ddatblygir. Fel rhan o'r sesiynau i baratoi ar gyfer arholiadau, edrychir ar gyd-destunau modiwlau eraill.
Sgiliau ymchwil Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i wneud ymchwil annibynol ar gyfer eu haseiniadau. Ceir sesiynau ar sut i gasglu gwybodaeth yn effeithiol o fewn y modiwlau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn datblygu cymhwysedd wrth ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig trwy ffynonellau llyfryddiaethol ac ar y we. Bydd aseiniadau 2 a 3 yn cael eu cyflwyno ar ffurf dogfennau a luniwyd ar brosesydd geiriau; bydd angen defnyddio meddalwedd dylunio priodol ar gyfer aseiniad 3. Bydd angen defnyddio PowerPoint ar gyfer aseiniad 4.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4