Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
TC27020
Teitl y Modiwl
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | .25 Awr Cyflwyno Prosiect Cyflwyniad hyd at 15 munud yn disgrifio prosiect creadigol yn seiliedig ar waith ymarferydd neu artist o ddewis y myfyriwr. .25 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Dadansoddiad o waith un o'r artistiaid a astudiwyd ar y modiwl. 2500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd Dadansoddiad o waith un o'r artistiaid a astudiwyd ar y modiwl. 2500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | .25 Awr Cyflwyno Prosiect Cyflwyniad hyd at 15 munud yn disgrifio prosiect creadigol yn seiliedig ar waith ymarferydd neu artist o ddewis y myfyriwr. .25 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
dadansoddi a mynegi dealltwriaeth o ymarfer artistiaid penodol o fewn cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
mynegi dealltwriaeth eglur o waith artist o fewn cyd-destun hanesyddol, diwylliannol a chelfyddydol yn ysgrifenedig, ar lafar a/neu yn ymarferol.
cymhwyso egwyddorion ymarfer artist penodol ar gyfer mynegi gweledigaeth greadigol bersonol.
mynegi gweledigaeth greadigol annibynnol trwy lunio prosiect cysyniadol yn ei gyfanrwydd, ar arddangos dealltwriaeth o'r cysyniad trwy gyflwyno elfen ddethol.
Disgrifiad cryno
Trwy gyfrwng cyfres o astudiaethau achos wythnosol, bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o arwyr gwahanol. Yn enwogion, yn artistiaid, yn berfformwyr ac yn ymarferwyr creadigol o nod, roeddent i gyd yn rai a dorrodd gwys newydd yn eu meysydd a’u disgyblaethau. Bydd y modiwl yn dadansoddi gyrfaoedd, gwaith ac nodweddion arddulliadol yr artistiaid yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol gwreiddiol, ac yn rhoi cyfle nid yn unig i astudio trawstoriad o wahanol ddisgyblaethau, ond hefyd i ystyried y rhagamodau sbardunodd yr angen iddynt gicio yn erbyn y tresi.
Bydd yr ‘arwyr’ yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â newidiadau yn y tîm dysgu, ond gall y ffigyrau posib gynnwys: Josephine Baker, James Baldwin, Augusto Boal, David Bowie, David R. Edwards, Billie Holiday, Derek Jarman, Clifford McLucas, Lee Miller, Ai Wei Wei.
Bydd yr ‘arwyr’ yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â newidiadau yn y tîm dysgu, ond gall y ffigyrau posib gynnwys: Josephine Baker, James Baldwin, Augusto Boal, David Bowie, David R. Edwards, Billie Holiday, Derek Jarman, Clifford McLucas, Lee Miller, Ai Wei Wei.
Cynnwys
10 x darlith 1 awr
10 x seminar/gweithdy 2 awr
10 x seminar/gweithdy 2 awr
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Mynegi dealltwriaeth o ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â chyd-destun hanesyddol a diwylliannol penodol; mynegi dealltwriaeth o yrfaoedd creadigol mewn amgylchiadau cyfnewidiol a heriol. |
Cydlynu ag erail | Ymateb a chyfrannu i seminarau a gweithdai. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd yr aseiniadau yn annog myfyrwyr i ddiffinio, mynegi, a chyd-destunoli ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â meysydd proffesiynol penodol; bydd y modiwl yn mynnu bod myfyrwyr yn ystyried eu gwaith eu hunain a'u hymatebion i'r aseiniadau fel rhan o daflwybr gyrfaol posib. |
Datrys Problemau Creadigol | Mynegi dealltwriaeth o ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â disgwyliadau a phosibiliadau gyrfaol a gynigir gan ddiwydiannau creadigol cyfoes; gallu i leoli ymarfer personol o fewn cyd-destun cyfoes. |
Gallu digidol | Cyfleoedd i wneud defnydd o dechnoleg aml-gyfryngol o fewn yr aseiniadau. |
Myfyrdod | Adlewyrchu, mireinio a mynegi ymarfer greadigol bersonol, yn ysgrifenedig, ar lafar, a thrwy gyfrwng ymarfer bersonol. |
Synnwyr byd go iawn | Adnabod cyd-destun gyrfaol priodol, gan fynegi dealltwriaeth real o'r diwydiannau creadigol; lleoli ymarfer greadigol bersonol o fewn y cyd-destun hynny. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5