Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2500 o eiriau | 60% |
Asesiad Ailsefyll | .1 Awr Cyflwyniad .1 Awr | 40% |
Asesiad Semester | .1 Awr Cyflwyniad .1 Awr | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 2500 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Defnyddio cysyniadau sy'n canoli ar genedl a hunaniaeth wrth drafod ffilm a theatr gyfoes
Dadansoddi agweddau ar hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol mewn ffilm a theatr gyfoes
Caffael dealltwriaeth o'r testunau a astudir mewn perthynas â'u cyd-destunnau diwylliannol a gwleidyddol rhwng 1997- heddiw.
Datblygu'r gallu i ymchwilio a chyflwyno dadl sydd wedi chefnogi'n llawn gan ystod o ffynonellau
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar Theatr a Ffilm yng Nghymru yn y cyfnod ôl-ddatganoledig (1997-heddiw). Ystyrir damcaniaethau sy’n canoli ar hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol, a dadansoddir testunau ffilmig a theatraidd trwy lens nifer o ddamcaniaethau cyfoes.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn un o gasgliad o fodiwlau damcaniaethol fydd ar gael i fyfyrwyr BA Creu: Cyfryngau a BA Creu: Perfformio yn eu hail flwyddyn. Fe fydd yn datblygu sgiliau dadansoddi myfyrwyr yng ogystal ag ymwybyddiaeth o'r modd yr adlewyrchir agweddau ar hunaniaeth Gymreig a pherthynas Cymru a'r Byd, a chysyniadau cyfoes, trwy ffilmiau a theatr.
Cynnwys
2.'Hen Gymru'
3.Y ‘Gymru Newydd
4. Iaith
5. Amlddiwylliannedd
6. Trawsgenedlaetholdeb
7. #MeToo
8. Newid Hinsawdd
9. Gofod a Lleoliad
10. Cymru a’r Byd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl. |
Cydlynu ag erail | Bydd y sesiynau dysgu yn rhoi’r cyfle i drafod fel grwp. |
Cyfathrebu proffesiynol | Mae’r aseiniadau ysgrifenedig ac ar lafar yn datblygu sgiliau cyfathrebu proffesiynol. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a phynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol. |
Gallu digidol | Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd ac ymarferol drwyddi draw. Bydd disgwyl iddynt ymchwilio a myfyrio ar gasgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a yn y broses o ffurfio’r aseiniadau. |
Myfyrdod | Bydd sesiynau dysgu a’r aseiniadau yn galluogi myfyrwyr i adlewyrchu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar drafodaethau a dealltwriaeth o’r brif ddamcaniaethau sy’n effeithio’r byd heddiw. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5