Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC20220
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymchwil Ymarferol
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio o ddeunydd ymchwil  (2,500 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad ymarferol  (15 munud)  50%
Asesiad Semester Portffolio o ddeunydd ymchwil  (2,000 o eiriau)  30%
Asesiad Semester Cymhwysiad ymarferol  (15 munud)  50%
Asesiad Semester 'Pitch' ymchwil cychwynnol  (10 munud)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Magu sgiliau ymchwil, gan ddatblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer ymchwilio gwahanol gynyrchiadau a digwyddiadau perfformio damcaniaethol. 

2. Adnabod cyd-destunau a cyfleoedd ymchwil priodol ar gyfer ystod o wahanol gynyrchiadau

3. Adlewyrchu ar effeithiolrwydd gwahanol ddulliau ymchwil, gan werthuso llwyddiannau’r dulliau hynny wrth baratoi’r aseiniadau. 

4. Cymhwyso canfyddiadau’r broses ymchwil er mwyn gwireddu cysyniad perfformiadol damcaniaethol, gan allu mynegi’r berthynas rhwng yr ymchwil â’r cysyniad terfynol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn fydd cynnig cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu strategaethau a sgiliau ymchwilio ar gyfer gwahanol gynyrchiadau a digwyddiadau perfformio damcaniaethol. Fe fydd y rhain yn cynnwys cyrchu a phrosesu gwybodaeth a deunyddiau hanesyddol, artistig a synhwyrus, ac yn trafod y math o ymchwil a wneir o flaen llaw wrth baratoi cynhyrchiad, ac wrth ei gloriannu a’i werthuso. Rhoddir sylw hefyd i gymhwyso a threfnu’r wybodaeth fel sail ar gyfer creu perthynas â chynulleidfa.

Ar ddechrau’r semester cyntaf, bydd cydgysylltydd y modiwl yn amlinellu prosiect cynhyrchu damcaniaethol ar thema benodol, ac yn awgrymu ffynonellau gwybodaeth a dehongli i’r myfyrwyr. Disgwylir i’r myfyrwyr ddefnyddio’r ffynonellau hyn, ac ymestyn cwmpas y gwaith ymchwil yn ôl eu gallu a’u dehongliad neilltuol eu hunain o’r prosiect cynhyrchu.


Yn ystod wythnosau cynnar y modiwl ( yn amodol, ar ôl wythnos 6), gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno ‘pitch’ ymchwil sylfaenol a fydd yn cynnig amlinelliad bras o faes eu hymchwil hyd at hynny, a hefyd yn rhoi amcan o’r modd y maent yn bwriadu mynd ati i ddehongli a chymhwyso’r deunydd hwnnw yn ymarferol. Ar ddiwedd y modiwl, gofynnir iddynt lunio cyflwyniad hyd at 15 munud o hyd a fydd yn gweithredu ac arddangos eu cynhyrchiad terfynol ar ffurf étude ymarferol.

Cynnwys

Strwythurir y modiwl yn ôl deg darlith/gweithdy dwy awr, a gynhelir pob yn ail wythnos trwy gydol y ddau semester. Gosodir tasgau ymchwil ar derfyn pob sesiwn, a bydd disgwyl i fyfyrwyr rannu eu gwaith yn y sesiwn nesaf.

Darlith 1: Cyflwyno’r Prosiect Cynhyrchu Damcaniaethol a Datblygu Themâu’r Prosiect

Darlith 2: Ffynonellau Gwybodaeth a Darganfod Methodolegau Ymchwil

Darlith 3: Theatr a Hanesyddiaeth

Darlith 4: Theatr a’r Archif

Darlith 5: Adolygiadau a Beirniadaeth

Darlith 6: Gwleidyddiaeth a Pholisïau Cyllido

Darlith 7: Ymchwilio Cynulleidfaoedd

Darlith 8: Marchnata Perfformiadau

Darlith 9: Rhannu Casgliadau Prosesau Ymchwil

Darlith 10: Cymhwyso a Pharatoi ar gyfer y Cyflwyniad

Gall trefn a chynnwys y sesiynau amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â chynnwys a themâu’r cynhyrchiad damcaniaethol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol Siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol (gan gynnwys cyflwyno a thrafod) Gwrando’n effeithiol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau, credoau a nodweddion personol mewn perthynas â’r cwrs /dilyniant gyrfa Cynllunio a pharatoi ar gyfer cwrs/gyrfa yn y dyfodol Marchnata sgiliau, profiad a chyflawniad yn effeithiol ar bapur ac yn bersonol Deall a defnyddio amrywiaeth o strategaethau chwilio am swyddi
Datrys Problemau Dynodi problemau Dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl Datblygu dulliau meddwl creadigol wrth ddatrys problemau Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posibl Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem
Gwaith Tim Deall cysyniad dynameg grŵp Cyfrannu at sefydlu nodau’r grŵp Cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grŵp Chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp Ymarfer sgiliau trafod a pherswadio Gwerthuso gweithgareddau grŵp a’ch cyfraniad eich hun
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o’ch arddulliau dysgu eich hun, eich hoffterau ac anghenion personol a rhwystrau i ddysgu Dyfeisio a chymhwyso strategaethau dysgu a hunan-reoli realistig Dyfeisio cynllun gweithredu personol i gynnwys nodau tymor byr a thymor hir Adolygu a monitro cynnydd, gan ddiwygio’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella’r perfformiad cyffredinol
Rhifedd Canfod a dehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol Ymdrin â phroblemau sy’n cynnwys rhifau
Sgiliau pwnc penodol Datblygu sgiliau ac ymwybyddiaeth sy’n benodol i’r maes, a’i berthynas â byd gwaith.
Sgiliau ymchwil Deall amrywiol ddulliau ymchwil Cynllunio a chynnal ymchwil Llunio adroddiadau sy’n briodol yn academaidd Gwerthuso dulliau, cynllunio a gweithdrefnau ymchwil
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd cyffredin Paratoi a mewnbynnu data Rheoli systemau storio Cyflwyno gwybodaeth a data Defnyddio ebost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5