Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Arholiad 2 awr | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Arholiad 2 awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion Pecyn o ymarferion wythnosol (8 eitem) | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad Llafar Arholiad Llafar (10 munud) | 20% |
Asesiad Semester | Arholiad Llafar Arholiad Llafar (10 munud) | 20% |
Asesiad Semester | Ymarferion Pecyn o ymarferion wythnosol (8 eitem) | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio'r amser gorffennol agos/perffaith a'r amser gorffennol pell/gorberffaith a hefyd rai ffurfiau berfol amser presennol.
2. Dylai fedru defnyddio'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig, a medru ei darllen ar lefel elfennol.
3. Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio amser presennol parhaol y ferf bezon ac amser presennol arferiadol amryw ferfau eraill, rheolaidd ac afreolaidd.
4. Dylai fedru'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig a medru mynd i'r afael a^ thestunau elfennol yn yr iaith.
Disgrifiad cryno
Cyflwynir teithi sylfaenol Llydaweg Modern. Cyflwyniad i Lydaweg cyfoes. Amcan y cwrs yw galluogi'r myfyriwr i gynnal sgwrs elfennol yn yr iaith ac i ddechrau ei hysgrifennu a'i darllen, ynghyd â a chyflwyno gwybodaeth gefndirol am Lydaw a'i llenyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon A2 (CEFR; Common European Framework of Reference for Languages)
Cynnwys
2. Amser gorffennol pell/gorberffaith
3. Ffurfiau berfol amser presennol.
4. Amser presennol parhaol y ferf bezon
5. Amser presennol arferiadol amryw ferfau rheolaidd ac afreolaidd.
Seilir yr arholiadau ar yr hyn sydd yng ngwersi Kentelioù Brezhoneg Diazez
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5