Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Dadansoddiad o ddogfen atodol 2 (ail-sefyll) 1,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Dadansoddiad o ddogfen atodol 1 (ail-sefyll) 1,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd atodol (ail-sefyll) (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Dadansoddiad o ddogfen 1 (1,500 o eiriau) | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd (2,500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Dadansoddiad o ddogfen 2 (1,500 o eiriau) | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos ymwybyddiaeth o hanes cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwydiannol cymunedau meysydd glo Prydain yn yr Oes Fictorianaidd.
Gwerthfawrogi’r gwahaniaethau a chyffelybiaethau rhwng y gwahanol feysydd glo dros y gyfnod dan sylw.
Deall a gwerthuso’n feirniadol wahanol drafodaethau a dadansoddiadau o gymunedau glofaol a geir mewn ffynonellau cyfoes a gwaith hanesyddiaethol.
Darllen, dadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol gwreiddiol, gan gynnwys papurau newydd, delweddau, baledi, barddoniaeth, hunangofiannau, ac adroddiadau swyddogol.
Disgrifiad cryno
Mae’r sesiynau cyntaf yn ystyried gwaith glowyr, gan gynnwys menywod a phlant, a’r damweiniau a’r trychinebau a oedd mor gyffredin yn y diwydiant yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y seminarau dilynol yn canolbwyntio ar gyflogwyr y diwydiant, sydd yn cael eu portreadu’n aml iawn fel cyfalafwyr cas nad ydynt yn poeni llawer am eu gweithwyr truenus, ac wedyn cymunedau a diwylliant y glowyr eu hunain, gan gynnwys eu cymunedau, eu crefydd, a’u hamdden. Yn olaf, byddwn yn ystyried undebaeth llafur yn y meysydd glo a gwleidyddiaeth y cymunedau glofaol, yn enwedig y berthynas rhwng y glowyr fel pleidleiswyr a’r Blaid Ryddfrydol
Nod
Y mae’r modiwl hwn, a’r modiwl gysylltiedig yn yr ail semester, yn cyflwyno hanes unigryw cymunedau meysydd glo Prydain yn ystod y ganrif cyn gwladoliad y diwydiant glo ym 1947. Defnyddir ystod eang o ffynonellau gwreiddiol i astudio gwaith a bywydau glowyr a’u teuluoedd yn y gwahanol feysydd glo ledled Prydain a bydd y profiadau hyn yn cael eu gosod mewn cyd-destun cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Bydd y modiwl hwn yn opsiwn arall i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn sy’n gorfod dewis pwnc arbennig.
Cynnwys
1. Cyflwyniad: Glo a Meysydd Glo yn Hanes Prydain
2. Gwaith yn y diwydiant
3. Llafur Menywod a Phlant
4. Trychinebau
5. Cyflogwyr: Polisïau Llafur
6. Cymunedau’r Meysydd Glo
7. Crefydd
8. Hamdden Glowyr
9. Undebaeth Llafur Cynnar
10. Gwleidyddiaeth: Y Blaid Ryddfrydol ac ‘Aelodau Seneddol Glowyr’
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6