Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
HC32320
Teitl y Modiwl
Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Arholiad agored (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig 1 (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Arholiad agored (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig 1 (2,500 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth sylweddol o hanes y Rhyfel Mawr a’i effeithiau ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru.
Dangos dealltwriaeth o’r materion ynglŷn â methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau amrywiol, megis papurau newydd, hunangofiannau a hanes llafar, i astudio’r gorffennol.
Astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol yn feirniadol, gan gynnwys ffynonellau printiedig, clywedol a gweledol.
Creu a chynnal dadleuon hanesyddol yn llafar (ddim yn asesiedig) ac ysgrifenedig (yn asesiedig).
Disgrifiad cryno
Nid oes dadlau mai’r Rhyfel Mawr oedd un o drobwyntiau mawr hanes Cymru. Yn sgil y rhyfel fe ddaeth effeithiau pellgyrhaeddol y rhyfel ar Gymru, a’i thrigolion, yn nhermau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â’r gost dynol a drawodd gymunedau a theuluoedd Cymreig. Fe newidiodd y darlun wrth i’r ymladd barhau a ffyrnigo, a’r aberth ddod yn fwyfwy poenus. Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r Cymry yn derbyn y ddadl mai ‘rhyfel cyfiawn’ oedd hwn yn ystod y brwydro, ond dros y blynyddoedd canlynol fe ddaeth tro ar fyd, a dadrithio nid yn unig gyda’r modd yr ymladdwyd y rhyfel, ond gydag achos Prydain yn ei gyfanrwydd.
Bydd 'Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry' yn cynnig arolwg eang o ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru, ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg. Ni fydd yr astudiaeth yn cyfyngu ei hunan i ddigwyddiadau 1914-18, ond yn hytrach bydd yn trafod y cyfnod o ddechrau’r 20fed Ganrif i'r presennol. Byddwn yn ystyried tystiolaeth o nifer o ffynonellau amrywiol er mwyn ceisio deall effaith yr ymladd ar feddylfryd y Cymry ar y pryd, ac yn y degawdau ers y cadoediad. Defnyddiwn ysgrifau milwyr cyffredin a’u teuluoedd yn ogystal â datganiadau gwleidyddion a newyddiadurwyr; astudiwn farddoniaeth a chynnyrch artistiaid ac fe glywn leisau’r cyn-filwyr mewn cyfweliadau a wnaethpwyd degawdau wedi’r brwydro. Wrth astudio sut mae'r rhyfel wedi cael ei bortreadu a'i gofio yn y Gymraeg byddwn yn dadansoddi sut mae’r newidiadau yn y coffáu yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru

Cynnwys
Un darlith ac un seminar pob wythnos:
(Wythnos 1) Cyflwyniad
(Wythnos 2) Arwain at y rhyfel
(Wythnos 3) Awst 1914 i Ragfyr 1915
(Wythnos 4) Ymladd
(Wythnos 5) Hyd at 1918
(Wythnos 6) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch
(Wythnos 7) Yn sgil y Dadrithio: Y Llewod a’r Asynnod;
(Wythnos 8) Cyfnod yr Ail Ryfel Byd
(Wythnos 9) Atgofion hen wŷr
(Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyd-destun dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd greadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu yn ôl y galw, er mwyn gwella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud â Rhyfel Cartref America. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r we yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6