Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad agored 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig (2,500 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Arholiad agored Arholiad agored 2,500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o hanes yr Unol Daleithiau rhwng 1865 a 2008.
Cydnabod sut mae ein dealltwriaeth o orffennol America wedi cael ei fowldio gan ffilm a theledu, cyfryngau torfol y ganrif ddiwethaf.
Dadansoddi ysgoloriaeth hanesyddol yn feirniadol.
Dadansoddi ffilm, dramâu teledu, a rhaglenni dogfen yn feirniadol.
Disgrifiad cryno
Mae ffilmiau poblogaidd fel Little Women a 1917, a chyfresi ar alw fel The Crown ar Netflix yn tystio nid yn unig i gyseinedd parhaus hanes fel pwnc poblogaidd gyda gwylwyr yn y sinema, o flaen y teledu neu ar-lein, ond i bwysigrwydd cyfryngau gweledol fel pwynt mynediad allweddol ar gyfer ein hadeiladwaith a’n dealltwriaeth o’r gorffenol. Mae’r modiwl hwn yn archwilio stori yr Unol Daleithiau, ac mae’n gwneud hynny mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae’n dilyn y digwyddiadau a sifftiau mawr yn y stori honno o ddiwedd y Rhyfel Cartref yn 1865 i ethol Barack Obama yn 2008. Yn ail, mae’n archwilio sut mae’r newidiadau hynny wedi cael eu cyfleu mewn sinema ac ar y teledu i gynulleidfaoedd torfol dros y ganrif ddiwethaf. Y cwestiynau y mae’n eu hwynebu yw: beth fu effaith newid ar brofiad America? Sut mae’r newid hwnnw wedi’i ddehongli ar gyfer cynulleidfaoedd poblogaidd ar y sgrin? A sut mae ffilmiau a chyfresi teledu wedi gweithredu fel testunau hanesyddol? Mae’r cwrs yn cynnwys themâu rhyddid, democratiaeth, yr Arlywyddiaeth, cysyniad y Ffin a ffawd Americanwyr brodorol ym mhrofiad America trwy lens Adluniad, cau’r Gorllewin, y Rhyfel Oer, y brwydr dros Hawliau Sifil, Fietnam, Watergate, a’r chwyldroadau rhywiol a rhywedd o’r 1960au ymlaen
Cynnwys
Wythnos 2: Adluniad
Wythnos 3: Cau’r Gorllewin
Wythnos 4: Yr Arlywyddiaeth I: Portreadu’r Arlywydd
Wythnos 5: Y Rhyfel Oer: Argyfwng Taflegrau Ciwba
Wythnos 6: Hawliau Sifil
Wythnos 7: Rhyfel Fietnam
Wythnos 8: Yr Arlywyddiaeth II: Watergate
Wythnos 9: Y Chwyldro Rhywiol
Wythnos 10: Yr Arlywyddiaeth III: Menywod a’r Arlywyddiaeth.
Wythnos 11: Cyflwyniadau ac Adolygu
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn y traethawd (a asesir) a sgiliau cyfathrebu llafar yn y trafodaethau seminar (ni asesir). |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn datblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, ymchwil a chyfathrebu a fydd o gymorth iddynt adnabod eu cryfderau wrth ystyried gyrfaoedd posibl. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau a ffactorau all ddylanwadu ar atebion posibl; datblygu ffyrdd creadigol o ddatrys problemau; dadansoddi manteision ac anfanteision atebion posibl. |
Gwaith Tim | Mae gwaith tîm yn rhan pwysig o’r Na wneir seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, mae’r modiwl yn manteisio myfyrwyr ag amrywiaeth o ddulliau addysgu, sy’n helpu myfyrwyr datblygu hyder yn eu hastudiaethau. Byddant hefyd yn addasu i ddadansoddi amrediad o ffynonellau. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwr yn datblygu ymwybyddiaeth o ffilmiau a rhaglenni teledu fel ffurfiau ac yn datblygu sgiliau dadansoddi fel rhan o’r asesiadau. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil wrth ddadansoddi gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac ystyried eu cyd-destun. Bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae pob rhan o’r modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5