Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA24720
Teitl y Modiwl
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1x prosiect o 4000 o eiriau  80%
Asesiad Ailsefyll Traethawd byr o 1000 o eiriau  20%
Asesiad Semester Blog / wici  (1,000 gair)  20%
Asesiad Semester 1 x prosiect o 4000 o eiriau  80%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos ymwybyddiaeth o hanesyddiaeth y mudiad hawliau sifil a diwylliant Affro-Americanaidd yn ystod y cyfnod wedi’r rhyfel

Dangos ymwybyddiaeth o’r materion ynglŷn â methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau clywedol i astudio’r gorffennol.

Astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol, ffynonellau archifol, printiedig, clywedol neu weledol.

Creu a chynnal dadleuon hanesyddol yn llafar ac ysgrifenedig

Disgrifiad cryno

Mae ffynonellau hanesyddol gwreiddiol yn cynnwys pob math o dystiolaeth o’r gorffennol ond, gellid dadlau bod haneswyr wedi troi yn bennaf at ffynonellau ysgrifenedig megis llyfrau, adroddiadau, llawysgrifau, dyddiaduron, papurau newydd, ac yn y blaen. Yn fwy diweddar, yn ystod y degawdau diwethaf, mae haneswyr wedi dechrau defnyddio mathau eraill o ffynonellau gwreiddiol yn eu gwaith, gan gynnwys ffynonellau gweledol, delweddau symudol, cyfweliadau hanes llafar, pensaernïaeth, arteffactau, tirwedd, ac ati, ac mae’r ffynonellau hyn wedi cael eu ‘darllen’ mewn ffordd debyg i ffynonellau ysgrifenedig, traddodiadol. Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar fath arall o ffynhonnell wreiddiol nad yw’n cael ei ddefnyddio yn ddigonol gan haneswyr, sef sain.
Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth ffynonellau clywedol a bydd yn defnyddio’r mudiad hawliau sifil yn America o’r 1950au hyd at y 1980au fel achos enghreifftiol. Yn ogystal, bydd y modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi ffynonellau clywedol yn eu cyd-destun ehangach ac yn ystyried cyd-destun cynhyrchu’r ffynhonnell (h.y. sut y crëwyd y ffynhonnell) a chyd-destun derbyniad y ffynhonnell (h.y. sut y deallwyd y ffynhonnell gan wrandawyr). Ymhlith y ffynonellau clywedol a ddefnyddir bydd: cerddoriaeth boblogaidd a gynhyrchwyd gan gwmnïau masnachol o fewn ffurfiau megis jazz, gospel, r’n’b, soul, funk, disco a rap; caneuon a diwylliant cerddorol y mudiad hawliau sifil; recordiau o gyfarfodydd yr ymgyrch; barddoniaeth a ddarllenwyd gan awduron blaenllaw; a pherfformiadau comedi gan gomediwyr Affro-Americanaidd.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth sain fel ffynhonnell hanesyddol ond, yn ogystal, bydd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi sain mewn cyd-destun ehangach trwy ystyried ffactorau ynglŷn â’r cynhyrchiant a’r defnydd cyfoes o ffynonellau clywedol. At hynny, defnyddir ffynonellau ‘traddodiadol’ i amlygu’r cyd-destun ehangach hefyd.

Cynnwys

1. Rhagarweiniad
2. Hanes clywedol
3. Gwreiddiau Cerddorol: Hen Ganeuon Ysbrydol a Cherddoriaeth Gospel
4. Ymgyrchoedd cynnar yn y Taleithiau Deheuol
5. ‘Rhyddid Nawr!’: Ymgyrchoedd yn y De Eithaf
6. ‘Inner City Blues’: Bywyd Pobl Dduon a Hawliau Sifil yn Ninasoedd y Gogledd
7. ‘Say it Loud, I’m Black and I’m Proud’: Cenedlaetholdeb Du a Seiniau’r Chwyldro
8. ‘I Have a Dream’: Dadansoddi Areithiau Arweinwyr y Mudiad Hawliau Sifil
9. ‘Respect’: Menywod yn y Mudiad ac yn niwylliant Affro-Americanaidd
10. ‘What’s Going On’: Marwolaeth y Freuddwyd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad
Rhifedd N/A
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5