Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Dissertation | 85% |
Asesiad Ailsefyll | Research proposal | 15% |
Asesiad Semester | Dissertation | 85% |
Asesiad Semester | Research proposal | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos gwybodaeth o brif ddadleuon theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Dangos dealltwriaeth gyffredinol o hanesyddiaeth theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Myfyrio’n feirniadol ar y prif ddamcaniaethau a chysyniadau yng nghyd-destun cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.
Dangos gwybodaeth gyffredinol o brif awduron a’u prif weithiau.
Dangos ymwybyddiaeth o syniadau am luniadaeth damcaniaethau sy’n cystadlu â’i gilydd
Adnabod ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a chloriannu’r gwahaniaethau rhyngddynt.
Dangos tystiolaeth o werthfawrogi’r berthynas rhwng theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol a meysydd academaidd cysylltiedig (e.e. damcaniaeth wleidyddol, damcaniaeth gymdeithasol, athroniaeth a.y.y.b.).
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cynnig ystod o wahanol safbwyntiau i fyfyrwyr ar ddamcaniaethu’r rhyngwladol. Byddwn yn archwilio gwreiddiau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad ysgolion damcaniaethol o feddwl, rôl lensys damcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o’r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol ar gyfer darllen prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol.
Cynnwys
Yn y sesiynau hyn trafodir yr ystod eang o ddamcaniaethau a ffurfiodd ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol yn hanesyddol, ac sy’n weithgar ynddi ar hyn o bryd, a bydd hefyd yn edrych tuag at dueddiadau sydd ar dwf yn theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys traddodiadau canolog theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol megis Realaeth, Rhyddfrydiaeth, Lluniadaeth a’r Ysgol Seisnig a hefyd gasgliad o safbwyntiau ‘beirniadol’ megis Marcsiaeth, Ffeminyddiaeth, Ôl-drefedigaethrwydd a damcaniaethau ôl-bositifiaeth. Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i arolwg drylwyr o faes damcaniaethau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac i’w paratoi ar gyfer astudiaethau pellach yn Rhan Dau.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tîm yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o’r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grŵp. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, ac yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael â phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tîm. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno dau ddarn o waith ysgrifenedig i’w asesu, bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata a llunio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6