Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | 1 x 2,000 o eiriau Traethawd | 40% |
Semester Assessment | 1 x 2,500 o eiriau Traethawd | 50% |
Semester Assessment | Cyfranogiad seminar | 10% |
Supplementary Assessment | 1 x 2,500 o eiriau Traethawd | 50% |
Supplementary Assessment | 1 x 2,000 o eiriau Traethawd | 40% |
Supplementary Assessment | 1 x 500 o eiriau Adroddiad yn lle cyfranogiad seminar | 10% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Diffinio dimensiwn hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol amlddiwylliannedd mewn democratiaethau modern.
Dangos dealltwriaeth o'r materion allweddol a'r heriau o ran polisi mewn cymdeithasau amlddiwylliannol.
Dangos dealltwriaeth o pam a sut y mae polisïau amlddiwylliannol wedi eu llunio a'u gweithredu.
Dangos dealltwriaeth o lwyddiannau, cyfyngiadau a methiannau polisïau amlddiwylliannol.
Cyfathrebu gwybodaeth, dadleuon a dadansoddiad o polisïau amlddiwylliannol ar draws ystod o astudiaethau achos.
Dangos dealltwriaeth o amrywiol draddodiadau a safbwyntiau.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn archwilio beth a olygir wrth amlddiwylliannedd ynghyd â heriau, cyfyngiadau a chyfleoedd polisïau amlddiwylliannol mewn cyd-destun cymharol. Bydd yn cynnig adnoddau cysyniadoli allweddol i’r myfyrwyr er mwyn medru ddeall dadleuon polisi cyfoes ynghylch amlddiwylliannedd a rheoli amrywioldeb ieithyddol, diwylliannol ac ethnig. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried dehongliadau gwahanol o natur amlddiwylliannedd ac yn olrhain gwahanol agweddau at amrywioldeb – o safbwynt y ‘pair’ yn yr Unol Daleithiau ddechrau’r 20fed ganrif, mabwysiadu’r polisi amlddiwylliannedd yng Nghanada yn ystod yr 1960au, a’r encilio honedig oddi wrth amlddiwylliannedd a welwyd yn Ewrop ers canol yr 1990au. Bydd y modiwl yn ystyried ystod o bynciau trafod cyfoes, megis sefyllfa lleiafrifoedd Islamaidd yn Ewrop neu hawliau pobloedd brodorol, grwpiau o fewnfudwyr a lleiafrifoedd cenedlaethol.
Content
Bydd y darlithoedd a’r seminarau yn cyflwyno amlddiwylliannedd i’r myfyrwyr fel athroniaeth polisi cyhoeddus, ac yn ystyried amlddiwylliannedd yn ei gyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol. Er mwyn rhoi enghreifftiau o’r heriau, y cyfyngiadau a’r posibiliadau sy’n gysylltiedig ag amlddiwylliannedd, a’u harchwilio, bydd y modiwl yn ymchwilio i nifer o achosion ac amryw o wledydd, megis Canada, yr Almaen, yr Iseldiroedd, a’r Deyrnas Unedig. Wrth edrych ar yr astudiaethau achos, rhoddir pwyslais penodol ar brofiadau pobloedd brodorol, grwpiau mewnfudwyr a lleiafrifoedd cenedlaethol er mwyn archwilio’r gwahanol agweddau a fabwysiadwyd gan amryw o lywodraethau, ynghyd â goblygiadau’r polisïau hyn. Bydd yn canolbwyntio hefyd ar ymdriniaethau beirniadol ag amlddiwylliannedd a’r ‘adwaith’ diweddar yn erbyn amlddiwylliannedd ers 9/11.
Notes
This module is at CQFW Level 5