Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FGM5920
Teitl y Modiwl
Prosiect Llai
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Co-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu  100%
Asesiad Semester Cynnydd  Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.)  15%
Asesiad Semester Adroddiad ffurfiol yn cynnwys adolygiad o'r llenyddiaeth  a chynllun prosiect (oddeutu 2500 gair) Adroddiad ffurfiol yn cynnwys adolygiad o'r llenyddiaeth (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno)  85%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg.
2. Gwerthuso datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil o ddiddordeb fel a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnir.
3. Trefnu a chydlynu eu gwaith er mwyn cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil.
4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun.
5. Cyflwyno ac amddiffyn eu gwaith mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r prosiect yn cynnwys ymchwil i'r llenyddiaeth a chyfnod o gynllunio sy'n cael eu dilyn gan y prif waith prosiect. Fel arfer, mae'r myfyriwr yn gwneud y prosiect dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd o fewn un o'r grwpiau ymchwil yn yr adran. Caiff y canlyniadau eu dehonlgi a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y tesutn ymchwil a geir o'r llyfryddiaeth a arfarnwyd, a chaiff y gwaith prosiect cyfan gan gynnwys yr adolygiad llenyddiaeth ei gyflwyno mewn adroddiad ysgrfenedig ffurfiol.

Cynnwys

Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect ond fel arfer bydd ym maes arbenigedd grŵp ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul

Mae'r modiwl yn rhedeg drwy gydol y semester a chaiff ei gefnogi gan diwtorialau wythnosol gyda'r goruchwylydd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Caiff yr adolygiad llenyddiaeth a darganfyddiadau'r prosiect eu cyfathrebu mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Disgwylir cyflwyniad proffesiynol o'r canlyniadau, sy'n ymarfer hanfodol ar gyfer y datblygiad i fod yn Ffisegydd proffesiynol.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn hanfodol i ymateb i'r canlyniadau cychwynnol ac i addasu'r strategaeth arbrofol yn unol â hyn.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dysgu a pherfformiad drwy adlewyrchu ar ganlyniadau eu gwaith labordy a chynllunio gwaith pellach.
Rhifedd Mae cynhwyso rhif yn ganolog i ddadansoddi data arbrofol, yn cynnwys trin cyfeilornadau
Sgiliau pwnc penodol Oes, ond mae'r manylion yn dibynnu ar y testun neilltuol.
Sgiliau ymchwil Mae angen sgiliau ymchwil a'r gallu i ymdrin â gwybodaeth fel cefndir i ddatblygu arbrofion a phrofi damcaniaethau.
Technoleg Gwybodaeth Mae defnyddio offer a chyfrifiaduron i ddadansoddi a chyflwyno data yn hanfodol ar gyfer prosiect Ffiseg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7