Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FGM5800
Teitl y Modiwl
Prif Brosiect
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu.  100%
Asesiad Semester Adolygiad Llyfryddiaeth (Gall unigolyn gyflwyno'i adolygiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno)  15%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar (yn Gymraeg)  15%
Asesiad Semester Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.)  10%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno)  60%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ymchwilio problem wyddonol benodol sy'n berthnasol i ffiseg.
2. Gwerthuso datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil o ddiddordeb fel a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnir.
3. Trefnu a chydlynu eu gwaith er mwyn cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil estynedig.
4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun.
5. Cyflwyno ac amddiffyn eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a chyfnod cynllunio y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn cyflawni prosiect sydd fel arfer gydag un o grwpiau ymchwil y sefydliad o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.

Cynnwys

Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datrys Problemau Creadigol .

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7