Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
DA10020
Teitl y Modiwl
Byw mewn Byd Peryglus
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad byr 750 gair 750 Words | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Sgript ar gyfer Cyflwyniad grŵp 10 Minutes | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad 1,500 o eiriau 1500 Words | 50% |
Asesiad Semester | Adroddiad 1,500 o eiriau 1500 Words | 50% |
Asesiad Semester | Adroddiad byr 750 gair 750 Words | 25% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad grŵp 10 munud 10 Minutes | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos ymwybyddiaeth o safonau, disgwyliadau ac arferion ar lefel prifysgol.
Nodi ffynonellau data ac adnoddau priodol ar gyfer gwaith academaidd, gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a gwefannau, a dangos gwerthfawrogiad o'r materion sy'n ymwneud â'u defnyddio.
Dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn digwyddiadau peryglus, a dangos dealltwriaeth o senarios y dyfodol.
Asesu risg yn feirniadol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau perygl.
Cynnig strategaethau lliniaru effeithiol ar gyfer amrywiaeth eang o fygythiadau cymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r prif beryglon sy’n wynebu cymdeithas a’r ffyrdd yr eir i’r afael â hwy a’u rheoli trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gwaith maes lleol. Byddwch yn archwilio’r prosesau ffisegol, effeithiau cymdeithasol a strategaethau lliniaru ar gyfer peryglon o’r fath ac yn ystyried tueddiadau hanesyddol ac amcanestyniadau ar gyfer y dyfodol mewn hinsawdd sy’n newid.
Mae’r modiwl yn cynnig cyfle i chi ymwneud yn uniongyrchol â’ch dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eich gwaith mewn lleoliad grŵp bach.
Mae’r modiwl yn cynnig cyfle i chi ymwneud yn uniongyrchol â’ch dysgu, i gyfrannu at drafodaeth a rhoi cyflwyniadau ar eich gwaith mewn lleoliad grŵp bach.
Cynnwys
Bydd y darlithoedd yn trafod amrywiaeth o themâu, a all gynnwys tywydd eithafol, llifogydd afonol, peryglon seismig a folcanig, a diogelwch bwyd a dŵr.
Bydd seminarau cynllun-benodol yn eich annog i archwilio themâu darlithoedd yn fwy manwl a datblygu sgiliau astudio craidd sy'n ganolog i lwyddiant mewn Addysg Uwch.
Bydd seminarau cynllun-benodol yn eich annog i archwilio themâu darlithoedd yn fwy manwl a datblygu sgiliau astudio craidd sy'n ganolog i lwyddiant mewn Addysg Uwch.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth. |
Cydlynu ag erail | Myfyrwyr i weithio fel tîm i gyflwyno'r cyflwyniad grŵp. |
Cyfathrebu proffesiynol | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol, a chyflwyno ar lafar mewn modd clir a phroffesiynol. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion lliniaru posibl, ac yn gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau o'r fath. |
Gallu digidol | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer yr adroddiad, a meddalwedd cyflwyno ar gyfer y cyflwyniad. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio, gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y cyflwyniad. Bydd myfyrwyr yn cynnal dadansoddiad o ffynonellau academaidd ac anacademaidd ac yn cynhyrchu adroddiad academaidd briodol. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Mae’r darlithoedd, seminarau, taith maes ac aseiniadau yn mynd i’r afael â dadleuon a themâu allweddol ym maes pwnc y myfyriwr. Bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â rhif, gan gynnwys dadansoddiad ystadegol o dueddiadau. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o'u sgiliau, credoau a rhinweddau personol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4