Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Tasg Golygu Hyd at 1,000 gair | 30% |
Asesiad Ailsefyll | 1 Awr Prawf Dosbarth | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth feirniadol Sylwebaeth feirniadol ar y dasg golygu sy’n cyfiawnhau’r penderfyniadau golygyddol. Hyd at 1,500 gair. | 30% |
Asesiad Semester | 1 Awr Prawf Dosbarth Prawf Dosbarth 1 awr. | 40% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth feirniadol Sylwebaeth feirniadol ar y dasg golygu sy’n cyfiawnhau’r penderfyniadau golygyddol. Hyd at 1500 gair. | 30% |
Asesiad Semester | Tasg Golygu Hyd at 1000 gair. | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos meistrolaeth dros faes arbenigol o wybodaeth megis arddulliau golygu ynghyd â meistrolaeth dros sgiliau golygu arbenigol.
Dangos meistrolaeth gadarn dros hanfodion golygu mewn nifer o wahanol gyd-destunau arbenigol.
Dadansoddi’n feirniadol a defnyddio’r prosesau golygu anghenrheidiol wrth fireinio’u sgiliau golygu.
Golygu testunau amrywiol yn hyderus ac at ddibenion niferus.
Trosglwyddo sgiliau golygu i feysydd cysylltiedig megis prawfddarllen, gweithio’n gwbl ddwyieithog a mentora eraill.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu uwch sgiliau golygu o fewn y maes cyfieithu. Rhoddir cyflwyniad manwl i waith golygyddion proffesiynol ac i wahanol gyweiriau a chyd-destunau golygu. Darperir cyfleoedd i ymarfer golygu ac i fanteisio ar brofiad golygyddion cydnabyddedig o fewn y maes wrth ddatblygu sgiliau golygu.
Cynnwys
Bydd sesiynau’r diwrnodau cyswllt yn cynnwys gweithdai a fydd yn ymwneud â’r elfennau canlynol:
Diwrnod cyswllt 1
• Hanfodion golygu
• Egwyddorion golygu a chysondeb
• Golygu copi
• Golygu creadigol
Diwrnod cyswllt 2
• Sgiliau prawfddarllen a sgiliau ehangach
• Mireinio sgiliau a thrafod gwaith golygyddion proffesiynol
• Golygu cynnyrch cyfieithu peirianyddol
• Cydweithio, adolygu ac ymarfer – sy’n cynnwys adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau aseiniadau.
Bydd yr holl weithdai yn ymwneud â datblygu ymwybyddiaeth o systemau sicrhau ansawdd a datblygu sgiliau golygu ymestynnol.
Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu prosesau prawfddarllen proflenni er mwyn gwneud yn siŵr na chyflwynir unrhyw wallau wrth i’r testun gael ei gysodi; datblygu prosesau adolygu cyfieithiadau a wnaed gan gyfieithydd arall, fel rhan o’r broses o sicrhau ansawdd, a’i gymharu ochr yn ochr â’r testun gwreiddiol; golygu testun yn yr iaith wreiddiol, cywiro gwallau ffeithiol neu ieithyddol a chynnig gwelliannau i’r arddull neu’r cynnwys; datblygu prosesau gwirio testun a ddrafftiwyd gan rywun nad yw’n gyfieithydd, a chywiro unrhyw wallau ieithyddol neu gynnig gwelliannau i’r arddull; datblygu prosesau gwirio cyfieithiadau sy’n gynnyrch cof cyfieithu neu gyfieithu peirianyddol.
Trefnir cyfranwyr allanol i gyfrannu at y diwrnodau cyswllt er mwyn cyfoethogi profiad y myfyrwyr ac er mwyn darparu cyfleoedd iddynt rwydweithio a chydweithio â sefydliadau perthnasol megis cyrff cyhoeddus / gweisg / adrannau’r Llywodraeth.
Sesiynau ychwanegol:
• Sesiynau unigol
• Sesiynau cysgodi arbenigwyr wrth eu gwaith. Disgwylir i’r myfyrwyr dreulio cyfnod byr ar leoliad er mwyn datblygu profiad uniongyrchol ehangach yn y maes e.e. gellir cwblhau tasgau ar leoliad gydag arbenigwyr golygyddol wrth dreulio cyfnod byr yn cysgodi arbenigwyr wrth eu gwaith.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy’r ymarferion golygu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y gwaith uniongyrchol a gwblheir ar ymweliad neu wrth gysgodi golygyddion |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. Trwy gyfrwng y gweithdai bydd cyfle hefyd i rwydweithio a chael mewnbwn gan olygyddion profiadol er mwyn cefnogi cynlluniau personol y myfyrwyr o ran gyrfa. |
Datrys Problemau | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (e.e. geiriaduron, cyfeirlyfrau, cronfeydd ar-lein) wrth ddewis a dethol pa adnoddau i’w defnyddio wrth ymdrin â thestunau arbenigol a’u golygu. Byddnat yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddant hefyd yn trafod adborth ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Wrth gwblhau tasgau bydd y myfyrwyr yn derbyn adborth yn rheolaidd. O ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella’u perfformiad. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr golygu trwy gyfrwng y gweithdai a’r profiad ehangach. |
Rhifedd | Ni chaiff gwybodaeth rifyddol y myfyriwr ei asesu yn y modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir sgiliau golygu trwy gwblhau cyfres o ymarferion, trwy ddefnyddio technoleg a thrwy gydweithio ag arbenigwyr o fewn y maes cyfieithu. |
Sgiliau ymchwil | Trwy’r ymarferion golygu bydd y myfywryr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau cyn gwneud penderfyniadau deallus. Byddant yn ystyried gwahanol gyweiriau a gwahanol gynulleidfaoedd. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig. Byddant hefyd yn defnyddio geiriaduron a therminolegau ar-lein, yn ogystal ag amrywiol gyfarpar cyfieithu a golygu, wrth ymarfer a chyflwyno aseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7