Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM5820
Teitl y Modiwl
Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio Creadigol 3000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Ysgrifenedig 3000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Portffolio Creadigol 3000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd Ysgrifenedig 3000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth o hanes, polisïau ac ymarfer ym maes cyfieithu creadigol mewn mwy nac un cyd-destun ieithyddol neu ddiwylliannol.

Dangos dealltwriaeth o gyfieithu yn y cyd-destun creadigol rhyngwladol.

Cymhwyso sgiliau cyfieithu ar gyfer y cyd-destun creadigol rhyngwladol.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu yn rhyngwladol yn y cyd-destun creadigol (e.e. llenyddiaeth, beirniadaeth, barddoniaeth, theatr, ffilm, cyfryngau ac ati). Rhoddir cyflwyniad i hanes, polisïau ac ymarfer mewn gwahanol gyd-destunau diwylliannol a ieithyddol ym maes cyfieithu creadigol, gan roi sylw penodol i’r cyfnewid diwylliannol rhwng Cymru a’r byd.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gyd-destun rhyngwladol ar gyfer cyfieithu creadigol ar draws ystod o feysydd. Bydd yn caniatáu i fyfyrwyr amlieithog i ymestyn eu sgiliau cyfieithu ymhellach, ac i’r myfyrwyr dwyieithog i archwilio cyd-destunau ble defnyddir iaith bont.

Cynnwys

Bydd y sesiynau dysgu yn cynnwys darlithoedd a gweithdai wyneb yn wyneb (neu drwy’r rhwydwaith fideo) ar y themâu canlynol:

i. Cyflwyniad i Gyfieithu Creadigol yn y Cyd-destun Rhyngwladol: archwilio traddodiad, polisi ac ymarfer cyfredol.
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)

ii. Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd: archwilio cyfnewid llenyddol rhwng Cymru a’r byd oddi ar 1998 (gan gynnwys achosion astudio).
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)

iii. Cyfieithu Creadigol ym maes Ffilm a Theledu (gan gynnwys achosion astudio)
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)

iv. Cyfieithu Creadigol ym maes Theatr (gan gynnwys achosion astudio megis Sibrwd, Theatr Genedlaethol Cymru)
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)

v. Gweithdy cyfieithu rhwng y Gymraeg ac iaith heblaw Saesneg neu gan ddefnyddio Saesneg fel iaith bont neu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gweithdy 6 awr mewn cydweithrediad â Sefydliad Mercator a’i phrosiectau, Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Detholion.

Gall myfyrwyr ddewis cyfieithu’n uniongyrcho o blith yr ieithoedd canlynol:
Ffrangeg, Sbaeneg, Catalaneg, Galisieg, Eidaleg, Basgeg, Gwyddeleg, Llydaweg, Almaeneg a Rwsieg.
Gall myfyrwyr ddewis cyfieithu’n anuniongyrchol o ieithoedd eraill.



Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau cyfathrebu drwy’r holl weithdai (Themâu x 4 a’r Gweithdy Cyfieithu), Yn ogystal bydd y Portffolio Cyfieithu yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle (yn enwedig drwy’r achosion astudio) i’r myfyrwyr ystyried eu gyrfaoedd ymhellach. Bydd y Gweithdy (ac Aseiniad 2) hefyd yn cynnig datblygiad personol ar gyfer y myfyriwr fel cyfieithydd creadigol.
Datrys Problemau Mae datrys problemau ieithyddol a diwylliannol yn rhan hanfodol o gyfieithu.
Gwaith Tim Bydd gwaith tîm yn digwydd yn ystod y modiwl, ac yn benodol yn ystod y Gweithdy, ond ni chaiff ei asesu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfieithu creadigol rhyngwladol yn y Gweithdy ac yna yn cyflwyno eu portffolio yn unigol wedi hynny. Bydd cyfle felly iddynt wella eu perfformiad eu hunain yn sgil ymatebion gan gyd-fyfyrwyr a’r tiwtoriaid yn ystod y broses hon. Ni chaiff y ‘gwella’ ei asesu.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae cyfieithu yn sgil pwnc-benodol.
Sgiliau ymchwil Mae gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau hyn drwy gydol y modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir technoleg gwybodaeth mewn rhai o’r themâu (e.e. Theatr, Ffilm a Chyfryngau).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7