Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY32320
Teitl y Modiwl
Cymraeg Ddoe a Heddiw: Cyflwyniad i ieithyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad  Ailsefyll yr elfennau a gollwyd neu a fethwyd (2,000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Prosiect  Ailsefyll yr elfennau a gollwyd neu a fethwyd (3,000 o eiriau)  60%
Asesiad Semester Prosiect  Gosodir prosiect sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddadansoddi eu tafodiaith/idiolect eu hunain, gan roi sylw i gyweiriau iaith a’r ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar ein dull o ddefnyddio iaith. (3,000 o eiriau)  60%
Asesiad Semester Aseiniad  Pecyn o aseiniadau ar wahanol agweddau ‘Cymraeg Ddoe’ a ‘Chymraeg Heddiw’ (2,000 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos dealltwriaeth ddofn a beirniadol o hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol a chymdeithaseg iaith.

2. Dangos dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r famiaith Geltaidd, ei pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd ac Indo-Ewropeaidd eraill, Hen Gymraeg, Cymraeg Canol, a’r heriau mae’r Gymraeg yn ei hwynebu yn y cyfnod diweddar.

3. Dangos dealltwriaeth ddofn o egwyddorion sylfaenol tafodieitheg prif nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, ffactorau sy’n ymwneud â chymdeithaseg iaith sy’n effeithio ar hynt tafodieithoedd y Gymraeg.

4. Dangos dealltwriaeth ddofn o egwyddorion sylfaenol astudiaethau enwau lleoedd, ac o’r elfennau mwyaf cyffredin a geir yn enwau lleoedd Cymru.

5. Dangos dealltwriaeth ddofn a beirniadol o’r heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu mewn perthynas â’r tafodieithoedd, enwau lleoedd, newidiadau demograffaidd, dylanwad y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Cwrs dewisol sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol ieithyddiaeth, sef tafodieitheg, astudiaethau enwau lleoedd, a chymdeithaseg iaith.

Cynnwys

Cwrs sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol tafodieitheg, astudiaethau enwau lleoedd a chymdeithaseg iaith. Ystyrir hefyd yr heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu. Bydd rhai sesiynau ar y tafodieithoedd ac enwau lleoedd yn cymryd ffurf Gweithdy.

Cymraeg Heddiw (wythnosau 1–5)
• Tafodieitheg a chymdeithaseg iaith: geirfa a phrif gysyniadau’r maes; astudiaeth o ddetholiad o dafodieithoedd.
• Astudiaethau Enwau Lleoedd

Cymraeg Ddoe (wythnosau 6–10)
• Ieithyddiaeth: diffinio’r maes a geirfa’r maes
• Yr ieithoedd Celtaidd; Y Frythoneg; dylanwad Lladin
• Datblygiad yr iaith c. 400 800
• Hen Gymraeg
• Cymraeg Canol: rhagymadrodd
• Cymraeg Canol: dylanwad Saesneg a Ffrangeg
• Tafodieithoedd yn yr Oesoedd Canol
• Syniadau canoloesol am yr iaith
• Syniadau’r cyfnod modern cynnar am yr iaith

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r pynciau a’r egwyddorion a drafodir.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y pynciau a chysyniadau allweddol y modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i deall a dadansoddi tafodieithoedd, enwau lleoledd, a ffurfiau hanesyddol ar yr yr iaith Gymraeg.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (prosiectau) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (prosiect a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6