Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY23120
Teitl y Modiwl
Y Cynfeirdd: o Taliesin i Heledd
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 3000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd 3000 Gair  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adnabod a thrafod y prif dueddiadau a genres yn y canu Cymraeg yn y cyfnod dan sylw.

Medru gosod y tesunau a’r beirdd a astudir yn eu cyd-destun hanesyddol a llenyddol.

Pwyso a mesur testunau yn feirniadol, gan roi sylw i ieithwedd, arddull, themâu a genre.

Medru darllen a deall y testunau Hen Gymraeg a astudir.

Disgrifiad cryno

Dyma gwrs sy’n trafod amrywiaeth eang o gerddi a gyfansoddwyd rhwng y 7g. a c.1100 gan feirdd a adwaenwn heddiw fel y Cynfeirdd Diweddar. Ar ôl ystyried cyd-destun hanesyddol a diwylliannol y cyfnod byddwn yn astudio (yn y gwreiddiol) y cylchoedd englynol a gysylltir â’r cymeriadau Urien, Llywarch a Heledd. Ond byddwn yn edrych hefyd ar weithiau llai adnabyddus y cyfnod. Er enghraifft, rhoddir sylw i ganu crefyddol ac ysgrythurol ac edrychir hefyd ar ddarnau o ganu natur a diarhebol, canu mytholegol a chanu proffwydol.

Cynnwys

1. Rhagarweiniad: dosbarthiad o’r deunydd; llawysgrifau
2. Cyflwyniad i’r cyd-destun hanesyddol a diwylliannol
3. Cyflwyniad i’r cylchoedd englynol
4. Cylchoedd Urien, Llywarch a Heledd (detholiad)
5. Cyflwyniad i’r canu crefyddol
6. Canu crefyddol — testunau
7. Cyflwyniad i gerddi chwedlonol (Taliesin, Myrddin, Arthur)
8. Cerddi am Taliesin chwedlonol — testunau
9. Cyflwyniad i’r canu darogan
10. Armes Prydein — testun (detholiad)

Cynhelir 20 darlith 1 awr. Cyflwynir y pynciau, uchod, gan ddarlithwyr a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniadau ysgrifenedig. Bydd darlithiau yn cynnwys elfen gref o drafod ond nid asesir trafodaethau grŵp yn ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifendig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer asesiadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5