Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Llafar (10 munud) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o gyfieithiadau (Tasgau cyfieithu: 1 dasg gyfieithu dan amodau arholiad, 1 dasg drawsieithu ac 1 dasg gyfieithu sy'n gofyn am ddau gywair) 1,500 o eiriau | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o dasgau (4 eitem e.e. adroddiad, cofnodion, datganiad i’r wasg; llythyr cais;) 1,500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio o dasgau (4 eitem e.e. adroddiad, cofnodion, datganiad i’r wasg; llythyr cais;) 1,500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio o gyfieithiadau (Tasgau cyfieithu: 1 dasg gyfieithu dan amodau arholiad, 1 dasg drawsieithu ac 1 dasg gyfieithu sy'n gofyn am ddau gywair) 1,500 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (10 munud) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol yng nghyd-destun ieithyddol a gwleidyddol presennol Cymru, ac ymgyrchoedd a pholisi Llywodraeth Cymru yn benodol.
Dangos adnabyddiaeth o’r adnoddau llyfryddol ac electronig sydd ar gael i gefnogi’r defnydd a wneir o’r Gymraeg yn y gweithle.
Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg, a medru eu defnyddio yn briodol mewn tasgau ysgrifenedig penodol, e.e. cofnodion neu adroddiad ffurfiol.
Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg, a medru eu defnyddio yn briodol ar lafar.
Medru drafftio a chyfieithu tasgau ysgrifenedig penodol yn Gymraeg, a dangos datblygiad o ran cywirdeb.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ieithyddol ac ymarferol a fydd yn fanteisiol iddynt yng ngweithleoedd dwyieithog Cymru wrth i’r rheiny ymateb i’r Safonau Cymraeg ac ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Nod
Lluniwyd y modiwl hwn gyda golwg ar ehangu’r cyfleoedd cyflogadwyedd sydd ar gael yn yr Adran i fyfyrwyr yn y ffrydiau Ail Iaith a Dechreuwyr. Cefnogir darpariaeth Gymraeg y brifysgol drwy agor y modiwl i fyfyrwyr o adrannau eraill ar draws y sefydliad.
Cynnwys
1: Y Gymraeg yn y Gweithle Proffesiynol: Llywodraeth Cymru a pholisi iaith; Comisiynydd y Gymraeg a Safonau’r Gymraeg; Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.
2: Adnoddau’r Gymraeg yn y Gweithle Proffesiynol: geiriaduron a gramadegau; adnoddau electronig a meddalwedd; manteision ac anfanteision meddalwedd fel Google Translate. Yr heriau mae’r defnydd o feddalwedd a systemau yn y gweithle yn eu cynnig i sefydliadau sy’n gweithredu’r Safonau Iaith, h.y. rhyngwynebau Saesneg a’r angen am ddatblygwyr meddalwedd dwyieithog a/neu gyfieithwyr arbenigol.
3: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: cyweiriau’r Gymraeg;
4: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: ysgrifennu ar gyfer y we a llythyrau ffurfiol
5: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: adroddiadau a chrynodebau
6: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: llunio cofnodion
7: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: datganiadau i’r wasg
8: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: golygu a phrawf-ddarllen dogfennau
9 & 10: Sgiliau llafar yn y Gweithle Proffesiynol: cyflwyniadau llafar a chyfweliadau
Yn ateg i’r sesiynau, uchod, cynhelir Gweithdy wythnosol a fydd yn rhoi sylw i gyfieithu yn y gweithle, gan gynnwys cyfieithu perianyddol. Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn datblygu sgiliau cyfieithu ac addasu myfyrwyr, a hefyd yn gweithredu fel syrjeri iaith a gramadeg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trafod materion ymarferol yn y gweithdai; medru cyfiawnhau penderfyniadau ieithyddol ac arddulliol wrth gyfieithu; dewis cywair iaith priodol mewn tasgau ysgrifenedig a llafar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y sgiliau cyflogadwyedd a ddatblygir ar y modiwl hyn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith proffesiynol. Arfogir myfyrwyr i weithio mewn sefydliadau sy’n gweithredu’r Safonau Iaith gan fod yn ymwybodol o’r heriau a gallu rhoi ar waith y datrysiadau i sicrhau gweithle dwyieithog sy’n hyderus yn ei allu i gydymffurfio â’r Safonau Iaith. |
Datrys Problemau | Adnabod yr heriau sy’n wynebu gweithleoedd wrth ddatblygu prosesau i’w galluogi i weithredu’n ddwyieithog yn unol â’r Safonau Iaith, a chanfod datrysiadau ymarferol. Ymateb i’r newyddion mewn cyfnod byr wrth lunio datganiad i’r wasg; gwneud penderfyniadau yngylch cywair ac arddull wrth gyfieithu. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod a datblygu syniadau; bydd y ddau bortffolio o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol o dasg i dasg. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y sgiliau ymarferol ac ieithyddol trosglwyddadwy o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. Gweler hefyd vii, uchod. |
Sgiliau ymchwil | Wrth ddysgu am yr adnoddau electronig sydd ar gael i gefnogi gwaith cyfieithu a gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. Dysgir sut i ddefnyddio meddalwedd cyfieithu megis Google Translate yn gywir. Dysgir sut i ddefnyddio adnoddau ieithyddol ar-lein megis Geiriadur yr Academi a Cysgeir. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5