Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol sy’n rhan o’r pecyn (1,500 o eiriau). | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Pecyn o dasgau Pecyn o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol (3,500 o eiriau); | 60% |
Asesiad Semester | Pecyn o dasgau Pecyn o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol (3,500 o eiriau); | 60% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol sy’n rhan o’r pecyn (1,500 o eiriau). | 30% |
Asesiad Semester | Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar bynciau rhagosodedig y gweithdai.
Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb i adborth, ar papur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod y gweithdy).
Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.
Llunio pedwar darn o waith creadigol gorffenedig, yngnyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y pecyn creadigol a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Gan fod disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Nod
Crëwyd y modiwl hwn er mwyn rhoi sylfaen theoretig gadarn i fyfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol a chyfle iddynt gymhwyso’r theori mewn ymarferion creadigol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Cynnwys
1. Barddoniaeth rydd
2. Darnau rhyddiaith byr
3. Y diwydiant Ysgrifennu Creadigol
4. Limrigau a thribannau
5. Llenyddiaeth ecffrastig
6. Llenyddiaeth epistolaidd/hapgael
7. Sgriptio
8. Deialog
9. Llais: cyfansoddi a pherfformio
10. Llunio stori: cynllun, cymeriadau, safbwyntia
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun theoretig/thematig y gweithdy. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif 4. |
Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod y gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer pob tasg yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblgyiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5