Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Exam | 70% |
Arholiad Semester | 2 Awr Exam | 70% |
Asesiad Ailsefyll | Cais am swydd Sylwer - Rhaid i fyfyrwyr ailsefyll arholiad a fethwyd a/neu ailgyflwyno cydrannau gwaith cwrs a fethwyd/heb eu cyflwyno neu rai o werth cyfatebol 2000 o eiriau | 30% |
Asesiad Semester | Cais am swydd 2000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Asesu yn feirniadol berfformiad economaidd a chynlluniau cwmni cyfrifiadurol bach, a photensial economaidd syniad cychwynnol.
Cymhwyso deddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chyfrifiadura a chodau ymddygiad proffesiynol i sefyllfaoedd ddydd i ddydd sy'n codi mewn busnes, a gwerthuso risgiau sy'n gysylltiedig â'r sefyllfaoedd hynny.
Egluro eu cynllun gyrfa pum mlynedd a gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd i'w gyflawni.
Asesu'r math o waith a wneir gan gwmni cyfrifiadurol ac i resymu mathau o gyfleoedd a heriau gyrfa sydd ar gael o fewn y cwmni hwnnw.
Gwerthuso'r goblygiadau rheoli i gwmni o ran materion amrywiaeth a chydraddoldeb, iechyd a diogelwch, TG gwyrdd, rheoli diogelwch ac adnoddau dynol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn mynd i’r afael â llawer o’r materion annhechnegol sy’n hanfodol i fyfyrwyr sy’n bwriadu dilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant meddalwedd. Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddeall llawer o'r materion a fydd yn codi wrth iddynt ddilyn gyrfa mewn cyfrifiadureg. Yn benodol, mae ein graddau wedi'u hachredu gan y BCS, ac mae'r BCS yn ystyried y mathau o bynciau sy'n cael sylw yn y modiwl hwn fel rhan angenrheidiol o addysg unrhyw weithiwr TG proffesiynol siartredig.
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno deunydd ym meysydd allweddol proffesiynoldeb a gyrfaoedd, cyllid, iechyd a diogelwch, pryderon amgylcheddol, y gyfraith ac eiddo deallusol mewn modd unedig, yng nghyd-destun y diwydiant meddalwedd. Dysgir peth deunydd rhagarweiniol o'r math hwn ar adegau priodol mewn modiwlau eraill ar lefelau is. Mae'r modiwl hwn yn dod â'r holl ddeunydd hwnnw ynghyd ar lefel briodol ar gyfer myfyriwr graddedig sy'n ymuno â'r diwydiant meddalwedd.
Cynnwys
Materion cyfreithiol: Troseddol v cyfraith sifil. Camddefnyddio Cyfrifiaduron, RIPA, Diogelu data a phreifatrwydd data. IPR. Contractau meddalwedd a thrwyddedu. [5]
Materion rheoli: Strwythur sefydliadau, Rheoli Diogelwch, Rheoli Cynaliadwyedd, Rheoli risg, Adnoddau Dynol, rheolaeth 360 gradd, proffesiynoldeb, y BCS, Cydraddoldeb ac amrywiaeth. [8]
Busnes: Busnesau Newydd. Cynllunio. Costio a phrisio. Elw a cholled. Marchnata. [6]
Gyrfaoedd: Penderfynu ar yrfa. Dod o hyd i'r swydd iawn ar gyfer eich gyrfa. Paru eich sgiliau â hysbysebion swyddi. Cyfweliadau - beth i'w ddisgwyl, sut i ateb cwestiynau anodd, beth i'w ofyn. Sgyrsiau gan gwmnïau cynrychioliadol yn y diwydiant meddalwedd. [9]
Crynodeb o'r modiwl [1]
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Dealltwriaeth o sefydliadau sy'n bwysig ar gyfer gyrfa; Datblygu sgiliau ymgeisio am swydd |
Cydlynu ag erail | Amherthnasol |
Cyfathrebu proffesiynol | Ym mhob aseiniad ymarferol |
Datrys Problemau Creadigol | Ym mhob aseiniad ymarferol |
Gallu digidol | Yn gynhenid i'r pwnc. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Trwy ddeunydd ariannol, a asesir yn yr arholiad |
Myfyrdod | Yn yr aseiniad cais am swydd |
Sgiliau Pwnc-benodol | Amherthnasol |
Synnwyr byd go iawn | Yn yr aseiniad cais am swydd |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6