Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
CC18010
Teitl y Modiwl
Datblygiad Proffesiynol a Phersonol
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn yr Adran Gyfrifiadureg yn unig
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cais am Swydd 3 ochr o A4 | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad | 65% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Unigol 15 munud cyflwyniad | 35% |
Asesiad Semester | Cyfranogiad mewn penwythnos gweithgareddau. 2 diwrnod | 30% |
Asesiad Semester | Cais am Swydd 3 ochr o A4 | 35% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
cynllunio CV priodol
dangos bod ganddynt y sgiliau sylfaenol ar gyfer rheoli amser, gweithio mewn tim ac ysgrifennu academaidd
adolygu eu perfformiad eu hunain yn feirniadol
defnyddio offer cyfrifiadurol i ategu eu hastudiaethau yn y brifysgol
ymchwilio, cynllunio a rhoi cyflwyniad technegol
Disgrifiad cryno
Mae darlithoedd y modiwl yn cynnwys deunydd i hyrwyddo datblygiad myfyrwyr fel gweithwyr proffesiynol yn eu maes. Datblygir ystod o sgiliau personol trosglwyddadwy o fewn i gyd-destun y diwydiant meddalwedd. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ynghylch cynhyrchu CV er mwyn llwyddo i ennill blwyddyn mewn gwaith.
Cynlluniwyd y Penwythnos Gweithgareddau i wella sgiliau gwaith tim y myfyrwyr a datblygu ymhellach eu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu. Trwy gyfrwng cyfres o dasgau amrywiol a gynhelir drwy gydol y penwythnos, a ategir gan waith prosiect pellach, bydd sgiliau'r myfyrwyr wrth ddatrys problemau a gweithio mewn tim yn cael eu hymarfer.
Bydd dosbarthiadau yn annog y myfyrwyr i ganolbwyntio ar sgiliau trosglwyddadwy, megis ysgrifennu, ymchwilio a gwneud cyflwyniadau.

Nod
Mae'r modiwl yn cynnwys deunydd nad yw'n cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o fodiwlau penodol ond sy'n hanfodol er mwyn ennill dealltwriaeth gyflawnach o'r maes yn gyffredinol. Mae sgiliau trosglwyddadwy personol yn nodwedd bwysig i unrhyw fyfyriwr graddedig ac mae'n rhan bwysig o'r modiwl hwn.
Cynnwys
1. Gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y Brifysgol
Gwneud y mwyaf o ddysgu wedi ei ganoli ar y myfyriwr.
2. Rheoli Amser
Dadansoddi sut orau i reoli amser er mwyn gwneud y mwyaf ohono.
3. Cyfeirio a dyfynnu
Defnyddio deunydd sy'n bodoli eisoes. Ffyrdd cywir ac addas o gyfeirio a dyfynnu. Llen-ladrad. Y Llyfrgell.
PENWYTHNOS GWEITHGAREDDAU SGILIAU TIM
4. Llunio Curriculum Vitae o safon uchel a marchnata'ch hun yn effeithiol, a chynllunio eich blwyddyn mewn diwydiant a'ch lleoliadau dros yr haf
Cyflwyniad ar y cyd a'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd
5. Cynllunio Cyflwyniad
Cyflwyniad i bwysigrwydd strwythur, amseru a chynnwys cyflwyniadau.
6. Rheoli grwp
Sut i weithio'n effeithiol fel tim, a chyfle i fyfyrio am y penwythnos
7. Sut i ysgrifennu Saesneg da
Cyflwyniad i arddull a thechneg wrth ysgrifennu Saesneg da.
8. Techneg Arholiadau
Cyfarwyddiadau safonol. Defnyddio amser, cynllunio. Arddull cwestiynau.
9. Pynciau eraill

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Yn y cyflwyniad a'r CV |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Yn y CV |
Gwaith Tim | Yn y cyflwyniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Yn y CV |
Sgiliau ymchwil | Mewn cyflwyniadau |
Technoleg Gwybodaeth | Yn rhan sylfaenol o'r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4