Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG36620
Teitl y Modiwl
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
BR36620 BR36620 is the English medium version of this module.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig -  wedi’i seilio ar y prosiect grŵp (3000 gair). Dadansoddi data’r prosiect dosbarth (3000 gair)  50%
Asesiad Ailsefyll Nodiadau cyflwyno yn seiliedig ar sleidiau -  seminar y prosiect grwp  10%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig - Adroddiad unigol wedi’i seilio  - Adroddiad 6,000 gair i’w asesu, o fath ac erbyn dyddiad i’w cytuno gyda chydlynydd y modiwl. ar y prosiect grwp (3000 gair)  40%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig - Adroddiad unigol wedi’i seilio  - Seminar y prosiect grŵp ar y prosiect grwp (3000 gair)  40%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig -  Dadansoddi data’r prosiect dosbarth (3000 gair)  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad - Seminar y prosiect grwp  prosiect dosbarth (2000 gair)  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Trafod problemau amserol a pherthnasol ym meysydd ecoleg, cadwraeth a gwyddor amgylcheddol.

2. Dangos medrusrwydd wrth adnabod y prif rywogaethau a’r elfennau biotig yn y cynefinoedd lle y caiff y cwrs maes ei ddysgu.

3. Dangos medrusrwydd mewn amrywiaeth o dechnegau casglu/ dadansoddi data yn y maes.

4. Cynllunio strategaethau ymchwil i gasglu a dadansoddi data sy’n berthnasol i’r cwestiynau ymchwil penodedig.

5. Cyfathrebu casgliadau’r ymchwil trwy lunio adroddiadau ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Trwy ddadansoddi themâu perthnasol ac amserol ym meysydd ecoleg, cadwraeth a gwyddor amgylcheddol, bydd y modiwl yn rhoi sylw i’r materion canlynol:
  • Cymhwyso dulliau labordy damcaniaethol, technegol a/neu wyddonol i’r amgylchedd maes mwy cymhleth ac afreoledig er mwyn deall sut y mae hinsawdd a daeareg lleoliad maes penodol yn dylanwadu ar brosesau creiddiol o safbwynt ecoleg a’r defnydd o dir.
  • Llunio cwestiynau ymchwil ecolegol, a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i’w datrys/ateb trwy brofi rhagdybiaethau, cynllunio arbrofion trylwyr, a chasglu, dadansoddi a dehongli data.
  • Ystyried, lle bo’n briodol, agweddau logistaidd (gan gynnwys diogelwch) a moesegol y prosesau ymchwil hyn.
  • Datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n greiddiol i ymchwil maes ym meysydd ecoleg/gwyddor amgylcheddol, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, cadw cofnodion, adrodd/cyfathrebu data arbrofion a sgiliau adnabod planhigion/ffyngau.

Cynnwys

Bydd amcanion y modiwl yn cael eu cyflawni drwy waith maes, a ategir gan nifer cyfyngedig o ddarlithoedd a seminarau (e.e. dehongli/dadansoddi data) yn ystod cwrs maes preswyl. Gall y pynciau a drafodir mewn unrhyw flwyddyn benodol amrywio gan ddibynnu ar leoliad y cwrs maes, amodau’r tywydd a’r trefniadau staffio, ond byddant yn cynnwys themâu megis:
Technegau ar gyfer dadansoddi planhigion
Effaith bodau dynol ar gymunedau biolegol
Agweddau o newidiadau amgylcheddol/hinsoddol a phrosesau olyniaethol
Cynllunio a chynnal prosiectau ymchwil sy’n seiliedig ar waith maes

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, trwy drafod y data sy’n deillio o’u gwaith maes mewn grwpiau, trwy lunio adroddiadau a thrwy wneud cyflwyniadau llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa N/A
Datrys Problemau Dadansoddi samplau a data a chyfosod gwybodaeth, a asesir drwy’r adroddiadau.
Gwaith Tim Datblygir yr elfen hon trwy osod y myfyrwyr mewn grwpiau bach yn ystod y gwaith maes.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd eu nodiadau maes eu hunain, am ddatblygu strategaethau effeithiol i weithio mewn tim, ac am ddatblygu dulliau realistig ac effeithlon o gasglu data yn y maes o fewn cyfyngiadau ehangach amserlen y cwrs maes.
Rhifedd Lle bo’n briodol, bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant yn y technegau ystadegol sydd eu hangen i ddadansoddi eu data maes.
Sgiliau pwnc penodol Adnabod planhigion/ffyngau trwy ddefnyddio allweddau.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i’r myfyrwyr gwblhau nifer o brosiectau ymchwil a chynllunio/cyflawni o leiaf un a fydd yn cynnwys: canfod problemau, cynllunio ymchwil, a chaffael, dadansoddi, cyflwyno a dehongli data.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn llunio adroddiadau ysgrifenedig, dadansoddi data a chwilio am destunau/gwybodaeth yn electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6